Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn “ddylanwadwr ieithyddol”

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn “ddylanwadwr ieithyddol”

Yn ôl arolygiad diweddaraf Estyn o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae’r Ganolfan wedi esblygu i fod yn “ddylanwadwr ieithyddol”, gyda chynnydd o 33% yn niferoedd y dysgwyr unigol ers 2017-2018, pan gyhoeddwyd y ffigyrau cenedlaethol cyntaf.

Yn ogystal â sicrhau ystod o gyrsiau sy’n cyd-fynd â’r CEFR (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd) - sy’n darparu llwybr dilyniant clir i ddysgwyr - mae’r Ganolfan yn ganolog i fentrau i normaleiddio defnydd o’r iaith.

Yn ei adroddiad arolygu, mae Estyn yn canmol y cynnydd yn yr arlwy cyfoethog o ddarpariaeth sector-benodol, sy’n cryfhau defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd, yn ogystal â’r gwaith i gynyddu defnydd mewn cymunedau ac ar yr aelwyd.

Un o rinweddau nodedig y Ganolfan yw’r ffordd mae’n cydweithio’n strategol i gynllunio’r ddarpariaeth a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid gwerthfawr. 

Mae Estyn yn adrodd bod partneriaid yn ystyried y Ganolfan yn gonglfaen i wireddu polisi Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr, ac yn ei gweld yn fanteisiol bod un sefydliad yn meddu ar yr arbenigedd addysgol a’r weledigaeth i gynllunio’n ieithyddol yn llwyddiannus.

Wrth i wasanaeth y Ganolfan esblygu, mae wedi gweithio’n flaengar i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y gweithlu addysg a phobl ifanc, gan fuddsoddi mewn darpariaeth ddigidol.  Mae’r adroddiad yn dweud bod rheolwyr yn anelu’n uchelgeisiol at sicrhau gwelliant parhaus, a’u bod yn gweithredu’n gadarn i reoli perfformiad darparwyr Dysgu Cymraeg y Ganolfan.

Mae Estyn yn argymell bod y Ganolfan yn parhau i ymestyn a rhannu arbenigedd y sector Dysgu Cymraeg o ran addysgeg a chaffael ail iaith i sectorau perthnasol eraill i gefnogi polisi Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. 

Mae hefyd yn argymell bod y Ganolfan yn parhau i arloesi trwy hwyluso gweithgareddau cynllunio ieithyddol sy’n integreiddio siaradwyr newydd ac anfoddog mewn mentrau i normaleiddio defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau ac yn eu gwaith.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, Jeremy Miles, “Mae’r adroddiad yn destun balchder, nid yn unig i bawb sy’n gweithio yn y sector Dysgu Cymraeg, ond hefyd i bob un ohonom sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu. 

“Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg newydd yn y Senedd, er mwyn rhoi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwr Cymraeg, beth bynnag fo’u cefndir a pha bynnag ysgol y maent yn ei mynychu. Mae llwyddiannau’r Ganolfan wrth gyflwyno un llwybr dysgu clir i ddysgwyr wedi bod yn ganolog i’n gwaith o baratoi’r Bil.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy’n falch o gydweithio gyda’r Ganolfan er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwr Cymraeg. Llongyfarchiadau mawr i dîm y Ganolfan ac i’r holl ddysgwyr.”

Mae Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, hefyd wedi croesawu’r adroddiad. 

Meddai Dona, “Mae gwaith y Ganolfan wedi esblygu ar raddfa gyflym. Yn ogystal â’r gwersi prif ffrwd yn ein cymunedau, sydd wrth wraidd y ddarpariaeth, trwy gydweithio bwriadus â phartneriaid allweddol dan ni wedi denu cynulleidfaoedd newydd ac wedi cynyddu’r niferoedd sy’n mwynhau dysgu a siarad Cymraeg.

“Mae ein holl ddarpariaeth yn seiliedig ar gwricwlwm cenedlaethol, sy’n cyd-fynd â’r CEFR ac sy’n cefnogi a galluogi dysgwyr ar eu taith iaith.  Edrychwn ymlaen at weithredu argymhellion Estyn a pharhau i ymestyn a rhannu arbenigedd addysgeg a chaffael ail iaith y sector er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru.

“Mae’n wych o beth i dderbyn cydnabyddiaeth gan Estyn o berfformiad llwyddiannus y Ganolfan, o’r diwylliant o ddatblygu’r gwaith ymhellach ac o holl fwrlwm y sector Dysgu Cymraeg.  Hoffwn ddiolch i staff y Ganolfan ac i bawb sy’n gweithio yn y maes, am roi y dysgwyr a siaradwyr newydd wrth galon ein holl weithgarwch.”