Y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn falch o gefnogi’r Gwobrau Ysbrydoli!

Disgrifiad llun: Foo Seng Thean, enillydd Gwobr Siaradwr Cymraeg Newydd 2025
Mae’n gyfnod cyffrous, gyda mwy a mwy o bobl yn mwynhau dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y corff arbenigol sy’n arwain y sector Dysgu Cymraeg.
Fe gwblhaodd 18,330 o bobl ein cyrsiau yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, cynnydd o 45% o gymharu â’r data swyddogol cyntaf a gyhoeddwyd ar gyfer 2017-2018, sef 12,700.
Mae’r twf yma yn adlewyrchu’r cynnydd yng ngwaith y Ganolfan. Yn ogystal â 1500 o gyrsiau sy’n cael eu cynnal bob blwyddyn mewn cymunedau ledled Cymru – wyneb yn wyneb ac yn rhithiol - mae cynlluniau penodol ar gyfer teuluoedd, pobl ifanc, y gweithlu addysg, y sector chwaraeon a’r byd Iechyd a Gofal, ymhlith eraill.
Mae hyn yn rhan o’r strategaeth i sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a bod croeso i bawb fwynhau dysgu a siarad yr iaith.
Wrth galon ein gweithgareddau, mae arbenigedd dysgu iaith y Ganolfan, a’n model dysgu llwyddiannus, sy’n rhoi un llwybr dysgu clir i ddod yn siaradwr Cymraeg.
Mae ein dysgwyr a’n siaradwyr newydd yn canmol eu cyrsiau a’u tiwtoriaid, ac yn croesawu pob cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg, mewn llu o ddigwyddiadau dysgu anffurfiol sy’n cyfoethogi eu profiad dysgu.
Mae ennill sgil newydd yn rhoi hyder i chi, ac yn agor y drws ar bob math o gyfleoedd cyffrous, o wneud ffrindiau newydd, i ddewisiadau gyrfa, i ymgysylltu â’r gymuned.
Mae’r Ganolfan yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith, sy’n dathlu llwyddiannau oedolion o bob cefndir sydd wedi dilyn llwybrau amrywiol at addysg, a chael profiadau cadarnhaol sydd wedi newid eu bywydau.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ac i’r holl enillwyr.
Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol