Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Y Gymraeg yn tanio llais creadigol Anne

Y Gymraeg yn tanio llais creadigol Anne

Ers iddi ail-afael yn y Gymraeg 15 mlynedd yn ôl, mae Anne May wedi cofleidio cyfleoedd i ysgrifennu’n greadigol, gan gyfrannu erthyglau at gylchgrawn Barn a’i phapurau bro, a chystadlu mewn Eisteddfodau lleol.

Yn wreiddiol o Gei Newydd, ond bellach yn byw yn Sir Benfro, mae Anne wrth ei bodd yn darllen ac ysgrifennu. Daeth cyfle i gyfrannu at gylchgrawn Barn yn sgil cynllun ‘Lleisiau Newydd’ y cylchgrawn, ble roedd Anne yn cael ei mentora gan y bardd a’r awdur, Elinor Wyn Reynolds. Mae wedi ysgrifennu adolygiadau am ddau o lyfrau’r gyfres i ddysgwyr, Amdani, sef Dail Te gan Mared Lewis, a Strimio gan Bethan Gwanas.

Yn ogystal, mae wedi cyfrannu erthyglau at bapurau bro lleol, gan gynnwys Y Dwrgi a Cwlwm, ac ennill gwobrau mewn Eisteddfodau lleol, gan ddod i’r brig yn Eisteddfod Llambed eleni am ei darn ‘Dysgu Cymraeg’.

Mae’n aelod brwd o glwb darllen i ddysgwyr, ac yn mwynhau darllen a thrafod pob math o lyfrau Cymraeg – o’r cyfoes i’r clasuron.

Mae Anne yn gweithio fel Swyddog Ymgysylltu i Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, elusen a sefydlwyd yn 2016 i adfer a diogelu Parc yr Esgob yn Abergwili, ac mae’n mwynhau defnyddio ei Chymraeg bob dydd yn y gwaith.

Cafodd ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg a dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol, ond collodd yr hyder i’w defnyddio. Penderfynodd ailafael yn yr iaith 15 mlynedd yn ôl pan symudodd i fyw i Sir Benfro. Erbyn hyn, mae’n dilyn cwrs Gloywi gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  

Buon ni’n holi Anne am lyfrau, cerddi ac o ble daw ei hysbrydoliaeth i ysgrifennu...

Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg, a pham?

Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Ysgrifennodd Caryl y nofel arbennig hon yn ei hugeiniau cynnar. Dw i'n meddwl bod ei phortread o gefn gwlad gorllewin Cymru yn grefftus iawn. Er bod awyrgylch y nofel yn dywyll iawn, mae hiwmor ynddi hefyd.

Beth yw eich hoff gerdd Gymraeg, a pham?

Diwrnod i’r Brenin gan T James Jones (Jim Parc Nest). Cerdd drist ond hardd iawn yn nhafodiaith gorllewin Cymru.

Pa awduron/feirdd sy wedi dylanwadu arnoch chi?

Mae cerddi a thafodiaith Idris Reynolds yn agos at fy nghalon, yn enwedig Y Cei sy'n tynnu sylw at y dylanwad cryf gafodd Cei Newydd ar farddoniaeth Dylan Thomas.

Dw i'n mwynhau cerddi Waldo, Gwenallt ac R Williams Parry ar hyn o bryd. Dw i'n difaru na chefais y cyfle i astudio'r cerddi hyn pan oeddwn i yn yr ysgol amser maith yn ôl.

Pa lyfrau Cymraeg fasech chi’n eu hargymell i ddysgwyr?

Modrybedd Afradlon gan Mihangel Morgan (Nofelau Nawr) ac O’r Cysgodion gan Heiddwen Tomos.

Beth sy’n eich ysbrydoli i ysgrifennu?

Chwedleuwr heb ei ail yw fy nhad (86 oed). Mae’n fraint casglu ei straeon a’u pasio ymlaen er mwyn eu cadw nhw’n fyw. Yn fy amser sbâr, dw i’n ysgrifennu darnau bach am hen gymeriadau Cei Newydd, hanes fy nheulu, hanes bro fy mebyd a byd natur.

Dych chi wedi mwynhau ysgrifennu erioed?

Na, dw i ddim yn ysgrifennu yn Saesneg o gwbl. Mae fel petai llais creadigol gyda fi yn y Gymraeg – dw i’n cael personoliaeth wahanol – mae’n od iawn!

Dych chi wedi mynd ar gyrsiau ysgrifennu creadigol – sut brofiad oedden nhw?

Bues i ar gwrs barddoni gyda Myrddin ap Dafydd rai wythnosau yn ôl yn Nant Gwrtheyrn – waw, am benwythnos! Roedd yn brofiad anhygoel. Ges i lawer o ysbrydoliaeth. Ysgrifennais gerdd am Gei Newydd, a chael adborth arni – am fraint cael profiad o’r fath. Roedd adloniant gyda’r nos hefyd – Cowbois Rhos Botwnnog, fy hoff fand Cymraeg oedd yn chwarae, a daeth Georgia Ruth i ymuno â nhw i ganu caneuon acwstig oedd mor hyfryd.

Bues i ar gwrs arall yn Nhŷ Newydd ym mis Mai gyda Fflur Dafydd ar sut i ysgrifennu nofelau trosedd. Unwaith eto, roedd yn brofiad anhygoel, a ges i fy ysbrydoli.

Ble dych chi’n hoffi ysgrifennu?

Yn ystod y cyfnod clo, adeiladodd fy ngŵr sied i fi yn yr ardd. Dw i’n dod yma i gael llonydd a thawelwch. Dyma fy hoff le i ddarllen ac ysgrifennu.

Oes unrhyw ‘tips’ gyda chi ar gyfer rhywun sy eisiau dechrau ysgrifennu?

Ysgrifennu rhywbeth bob dydd – nodiadau neu ddyddiadur – neu beth am gystadlu mewn Eisteddfodau lleol?

Pa lyfr Cymraeg dych chi’n ei ddarllen ar hyn o bryd?

Paid â dweud gan Mari Emlyn a Caersaint gan Angharad Price.

Disgrifiad llun: Anne yn mynd am dro ar hyd Y Lôn Goed