
Er iddo gael ei fagu yng Nghaerlŷr yng nghanolbarth Lloegr, roedd Benjamin Dafydd Jones wastad yn teimlo cyswllt arbennig â Chymru, a hynny’n bennaf oherwydd ei gysylltiadau teuluol.
Roedd tad Ben yn siaradwr Cymraeg o Aberpennar, roedd ei dad-cu yn bregethwr mewn capel Cymraeg ac mae perthnasau Ben yn byw yng Nghaerfyrddin.
Doedd dim syndod felly pan symudodd i Fangor i fyw yn 2023 ei fod yn awyddus i ddysgu’r iaith.
Meddai Ben, “Ro’n i wastad wedi gobeithio cael byw rhywle tawel, yng nghanol natur ac ro’n i’n falch pan ddaeth cyfle i symud i Fangor. Ro’n i wedi cael digon ar y ddinas fawr goncrit, gyda gormod o bobl a gormod o adeiladau.
“Yn ogystal â phrydferthwch yr ardal, mi wnes i hefyd ryfeddu at faint o Gymraeg oedd ym Mangor – ro’n i’n ei chlywed ym mhob man ac ro’n i eisiau ei dysgu! Felly dechreuais i gydag ap ‘Say Something in Welsh’.
“Ro’n i hefyd yn gwrando ar BBC Radio Cymru ac yn mynd i sesiynau sgwrsio ym Mangor. Ac er nad o’n i’n deall unrhyw beth ar y dechrau, gyda amser, mi wnes i ddod i ddeall mwy. Ro’n i’n union fel plentyn ifanc, gyda’r iaith o’m cwmpas er nad o’n i’n deall llawer.
“Roedd hynny yn ôl ym Mai 2023, ac erbyn hyn dw i wedi bod ddwywaith i Nant Gwrtheyrn ar gwrs preswyl drwy gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mi wnes i fwynhau’n fawr iawn, ac roedd yn wych cael fy nhrochi yn yr iaith mewn lleoliad arbennig iawn.”
Mae Ben bellach yn siarad Cymraeg yn hyderus, ac yn cael cyfle i siarad yr iaith bob dydd yn ei waith gyda Llwyfan Map Cyhoeddus. Cynllun peilot ydy hwn dan arweiniad adran bensaernïol Prifysgol Caergrawnt er mwyn dangos y pethau sy’n wirioneddol bwysig i gymunedau cyn dechrau’r broses o gynllunio a datblygu. Y lle cyntaf i gael ei fapio yw Ynys Môn, gyda’r gobaith o ehangu i ardaloedd eraill yn y dyfodol.
Ychwanegodd Ben, “Yn Llwyfan Map Cyhoeddus, dan ni’n cynnwys y bobl leol wrth wneud map mawr o’r ynys – gyda llawer o haenau i’r map. Gall yr haenau yma fod yn daith bws i’r ysgol, pethau diwylliannol, amgylcheddol, yr iaith Gymraeg – pob math o elfennau sy’n rhoi darlun llawn o rywle.
“Er enghraifft, dan ni’n gweithio â phlant a phobl ifanc i ddeall eu barn am yr ardal leol, lle maen nhw’n chwarae, beth sydd angen ei wella a beth sy’n dda yn barod.
“Trwy weithio fel hyn, dach chi’n cael gwybodaeth llawer mwy cyfoethog am le. Mae’n llawer mwy na map daearyddol O.S – mae’n rhoi ysbryd a theimlad y lle i adrannau cynllunio ac unrhyw un arall sydd â diddordeb. Mae’r map yn gyhoeddus a dan ni’n gobeithio y bydd ar-lein yn llawn erbyn diwedd mis Ionawr 2026.”
A thrwy’r Gymraeg, mae Ben yn teimlo ei fod bellach yn perthyn i Gymru – i’r lle, y gymuned a’r dreftadaeth.
Ychwanegodd, “Dw i’n teimlo bod ysbryd y tir yng Nghymru yn unigryw - mae’n hynafol fel y môr a’r mynyddoedd. Mae’r iaith Gymraeg yn cysylltu fi i’r ysbryd hwn mewn ffordd dwys na fedra i ei egluro.”