
Mae ’na deulu unigryw o Sir Conwy sy’n mwynhau dysgu Cymraeg gyda’i gilydd.
Mae Reuben a’i chwiorydd Joe a Lexi yn mynd i ddosbarth nos ar-lein gyda darparwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn y gogledd ddwyrain, Popeth Cymraeg, mewn partneriaeth â Choleg Cambria. Mae eu mam, Stephanie, hefyd wedi dysgu’r iaith.
Cawson ni air â nhw i glywed mwy am eu taith iaith.
Ble cawsoch chi eich magu a ble dych chi'n byw rŵan?
Reuben: Cawson ni ein magu yn Hen Golwyn, Sir Conwy, ond dw i'n byw ym Mryste rŵan, mae Jo yng Nghaer a Lexi ym Mhenmynydd Sir y Fflint. Mae mam yn dal i fyw yn Hen Golwyn.
Oeddech chi wedi dysgu Cymraeg cyn hyn?
Reuben: Dysgais i Gymraeg yn yr ysgol pan o'n i'n blentyn. Ces i athrawes dda, ond roedd y dull o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol yn teimlo yn eithaf annaturiol ac anhyblyg. Symudais i Loegr ac wedyn i Sweden, i’r brifysgol, ac anghofio llawer o Gymraeg.
Jo: Mi ddechreuais i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol pan o’n i tua 5 oed. Ond symudais i Leeds yn 2019 i fynd i'r brifysgol yng nghanol y pandemig. O ganlyniad, teimlais fy mod i wedi colli cyswllt â Chymru a’r Gymraeg. Symudais i yn ôl i Fae Colwyn ar ôl bod yn y brifysgol a dyna pryd dechreuais i ddysgu Cymraeg eto.
Lexi: Ro’n innau yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, a phan o'n i'n 16 oed, mi wnes i fynd i ddosbarth dysgu Cymraeg i oedolion efo dwy ffrind. Ar ôl cyfnod yn Bradford, symudais i’n ôl i ogledd Cymru a dechreuais i ddysgu Cymraeg ar-lein.
Stephanie: Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn ôl yn 2002 mewn dosbarth nos. Es i unwaith yr wythnos adeg y pandemig a llwyddo i wneud fy arholiad TGAU. Erbyn hyn, dw i'n gwneud Duolingo bob dydd.
Pam dach chi eisiau siarad Cymraeg?
Jo: Dechreuais i ddysgu Cymraeg achos ro’n i isio cadw cyswllt gyda fy ngwlad. Rŵan, dw i'n byw yng Nghaer, felly mae hyd yn oed yn fwy pwysig mod i’n dal ati.
Reuben: Mae'n teimlo'n anodd bod yn Gymro heb y Gymraeg. Mae'n bosibl wrth gwrs, ond mae'r iaith yn rhan bwysig iawn o'n cymuned, ein pobl a’n hanes. Mae pobl wedi brwydro er mwyn cael yr hawl i siarad Cymraeg. Mae siarad Cymraeg wedi fy helpu i deimlo cyswllt efo fy ngwlad ar ôl symud i ffwrdd.
Lexi: Ar ôl cael fy merch, ro’n i eisiau dechrau dysgu eto achos dw i eisiau siarad Cymraeg efo hi.
Stephanie : Ro'n i’n awyddus iawn i ddysgu Cymraeg pan nes i symud i Gymru achos mae’n iaith unigryw i Gymru. Pan ro'n i'n ifanc, mi wnes i fyw ym Mharis ac es i i'r ysgol Ffrangeg felly dw i'n mwynhau dysgu ieithoedd a dw i’n ei weld yn llesol iawn.
Wnaethoch chi ddechrau dysgu ar yr un pryd?
Reuben: Do. Ro’n ni i gyd isio gallu siarad Cymraeg eto, felly gwnaethom ni ymuno â dosbarth Popeth Cymraeg efo'n gilydd.
Jo: Ro’n i'n arfer dysgu Cymraeg ar Duolingo, ond doedd 'na ddim ymdeimlad o gymuned. Mae dysgu efo Popeth Cymraeg yn wahanol achos mae'r tiwtor, Ioan, yn rhoi mwy o hanes o gwmpas y geiriau. Dw i hefyd yn mwynhau dysgu efo fy mrawd a chwaer achos mae’n gwneud i ni deimlo yn nes at y lle cawson ni ein magu.
Beth ydy'r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Lexi: Dw i'n hoffi gwrando ar y newyddion ar BBC Radio Cymru a gwrando ar artistiaid Cymraeg ar Spotify, fel Mared. Pan o'n i'n blentyn, ro'n i'n hoffi canu yn Eisteddfod yr Urdd efo'r ysgol. Dw i'n hoffi cerddoriaeth!
Jo: Y peth gorau am ddysgu Cymraeg i fi yw gweld brwdfrydedd siaradwyr Cymraeg o glywed mod i’n dysgu. Dw i'n meddwl fod hynny’n rhywbeth arbennig iawn.
Reuben: Y peth gorau i mi ydy pan dw i'n dechrau medru cael sgwrs fyrfyfyr tu allan i’r dosbarth. Mae'n (dal yn anodd, ond mae’n) braf pan mae'n dechrau mynd yn haws sgwrsio’n naturiol.
Ydych chi'n siarad Cymraeg efo'ch gilydd tu allan i'r dosbarth?
Reuben: Ydyn. Dan ni'n tecstio ar WhatsApp yn Gymraeg yn unig.
Jo: Dan ni hefyd yn anfon 'voicenotes' ar WhatsApp i ffurfio brawddegau’n gyflymach. Dan ni'n ymarfer efo ein Mam ni hefyd achos mae hi'n siarad Cymraeg.
Lexi: Dw i hefyd yn siarad Cymraeg efo fy merch a dan ni'n darllen llyfrau Cymraeg o'r llyfrgell.
A ble arall dach chi'n cael cyfle i siarad Cymraeg?
Lexi: Dw i'n trio siarad Cymraeg mewn siopau ac yn yr archfarchnad. Dw i'n trio ysgrifennu rhestr siopa yn Gymraeg bob wythnos. Dw i'n canu mewn côr lleol a weithiau dan ni'n canu caneuon yn Cymraeg.
Jo: Dw i'n gwylio Gogglebocs Cymru ar S4C efo is-deitlau Cymraeg i ymarfer cyfieithu yn fy mhen i. Mae'n anodd i fi! Hefyd, dw i'n ceisio siarad Cymraeg ac ysgrifennu e-byst yn Gymraeg yn fy ngwaith. Yn ddiweddar, mi es i i gig Mared efo ffrind o'r gwaith - dw i'n caru'r gân 'Dal ar y Teimlad'. Dw i'n gwrando ar fiwsig Cymraeg yn aml er mwyn cael bod yng nghanol sŵn yr iaith a dw i'n gobeithio mynd i fwy o gigs Cymraeg.
Reuben: Dw i wedi cyfarfod ychydig o bobl sy'n siarad Cymraeg ym Mryste, felly dw i’n medru cael sgwrs o bryd i'w gilydd. A gyda’r teulu wrth gwrs!
Diolch yn fawr iawn am y sgwrs a phob lwc i’r tri ohonoch ar eich taith iaith.