A hithau wedi ennill Medal y Dysgwyr ei hun yn ôl yn 2018, roedd yn brofiad arbennig iawn i’r athrawes, Rebecca Morgan, pan gyhoeddwyd mai un o’i disgyblion, Gwilym Morgan, oedd wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023.
Mae Rebecca yn bennaeth y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd. Dechreuodd weithio yno yn 2017, yr un flwyddyn ag y dechreuodd Gwilym ym Mlwyddyn 7.
Yn ôl Rebecca, “Dw i wedi dysgu Gwilym ers pan oedd ym Mlwyddyn 7 ac ro’n i’n gallu dweud yn syth fod rhywbeth arbennig amdano. Ro’n i’n gallu gweld fod ei ymennydd yn gweithio’n dda gyda ieithoedd ac roedd yn gallu pigo pethau lan mor gloi.
“Mae cael rhywun sydd yn dwli ar dy bwnc yn deimlad arbennig iawn. Pan ro’n i’n ei wylio yn yr Eisteddfod yn siarad gyda phobl, a gweld sut mae ei hyder wedi datblygu dros y blynyddoedd, roedd yn wych. Roedd y compliment mwyaf allwn i ei gael.”
Fe ddysgodd Rebecca y Gymraeg yn yr ysgol, ac mae’n dal i gofio’r gwersi Lefel A, a’r brwdfrydedd oedd gan ei hathrawes dros yr iaith.
“Ces i athrawon Cymraeg anhygoel pan ro’n i’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Pencoed. Ro’n nhw mor gefnogol a dw i nawr yn ceisio efelychu yr hyn ges i gyda’m disgyblion yn Ysgol Esgob Llandaf.”
Mae Gwilym yn gobeithio mynd i’r brifysgol i astudio Cymraeg a Ffangeg, gyda’r gobaith o weithio fel athro mewn ysgol uwchradd.
“Gwil yw’r disgybl cyntaf hyd yn hyn sy eisiau cario mlaen â’r Gymraeg fel swydd. Mae ’na amryw sy’n caru’r pwnc, a’r gobaith yw y gwna nhw fodiwlau yn Gymraeg yn y brifysgol, ond mae’n deimlad arbennig iawn pan fydd rhywun eisiau cario mlaen gyda’r Gymraeg fel gyrfa.
“Mi ges i gerdyn ganddo ar ôl yr Eisteddfod yn dweud ‘dw i’n gobeithio dweud amdanat ti wrth fy nisgyblion i yn y dyfodol’ – ac roedd hynny yn emosiynol iawn!”
Mae Gwilym yn dod o deulu sy’n caru ieithoedd, gyda’i fam wedi gwneud gradd mewn Ffrangeg ac Almaeneg, ac wedi dysgu Cymraeg ei hun yn ddiweddar. Mae hi bellach yn gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg.
“Nid yn unig fod Gwilym yn pigo iaith i fyny’n rhwydd, mae hefyd yn fodlon rhoi cynnig ar siarad. Mae’n gwybod ei fod yn gwneud camgymeriadau, ond yn fodlon dysgu ohonyn nhw.
“Ti ddim yn gallu dysgu rhywun i ddwli ar iaith fel mae e’n dwli arni – mae hynny yn rhywbeth naturiol sydd ynddo. Felly gobeithio, yn y dyfodol, y bydd yntau yn athro Cymraeg fydd yn ysbrydoli pobl ifanc i garu ein hiaith arbennig.”