Mae tair ysgoloriaeth, gwerth £2,000 yr un, wedi eu dyfarnu i ddysgwyr o Batagonia gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i’w helpu i astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros yr haf.
Bydd Judith Ellis, Sybil Hughes a Florencia Zaldegui o Batagonia yn treulio mis yn astudio cyrsiau dwys ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd, sef dau o ddarparwyr cwrs y Ganolfan Genedlaethol. Fe weinyddir yr ysgoloriaethau mewn cydweithrediad â’r Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Cymru-Ariannin.
Bydd Judith yn dilyn cwrs Canolradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gweithio yn ysgol Gymraeg Ysgol y Cwm, Trevelin yn nhalaith Chubut, Patagonia ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at gael defnyddio mwy o’i Chymraeg yn y gwaith yn dilyn y cwrs haf.
Meddai Judith, “Dw i’n edrych ymlaen at wella fy Nghymraeg. Dw i eisiau dod i adnabod y wlad lle roedd fy nheulu yn arfer byw a dod i wybod mwy am ei hanes hefyd. Wrth ddod ar y cwrs haf yn Aberystwyth dw i’n gobeithio gallu cyfarfod â phobl o Gymru a dysgu mwy o Gymraeg er mwyn medru defnyddio’r iaith yn yr ysgol yn Nhrevelin. Dwi’n edrych ymlaen at ddweud yr hanes wrth blant bach Ysgol y Cwm lle dw i’n dysgu fel athrawes.”
Bydd Sybil Hughes hefyd yn treulio amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Sibyl yn gweithio yn Ysgol Feithrin Gymraeg y Gaiman, sydd hefyd yn nhalaith Chubut. Mae ganddi ddiddordeb mewn cyfieithu, felly yn ystod ei chyfnod yng Nghymru bydd hi’n treulio amser ar y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn y Brifysgol.
Ym Mhrifysgol Caerdydd y bydd Florencia Zaldegui yn mynychu’r cwrs haf. Yn wreiddiol o dalaith Rio Negro, ar gyrion gogleddol y Wladfa, mae hi erbyn hyn yn athrawes chwaraeon yn y Gaiman. Ers symud i’r Gaiman tua pum mlynedd yn ôl mae hi wedi mwynhau dysgu’r iaith. Enillodd hi ysgoloriaeth yr Urdd y llynedd, a bu’n byw yng Nghymru am fis ac yn gwirfoddoli gyda’r Urdd.
Dyn ni’n llongyfarch y tair ar eu llwyddiant, ac yn edrych ymlaen at eu croesawu yma i Gymru dros yr haf. ’Dyn ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Wladfa, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.
Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol