Disgrifiad llun: Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gyda Alcira Williams, Noe Jenkins, a Mariel Jones yn Ysgol Haf Prifysgol Aberystwyth 2017. Fe wnaeth y tair o Batagonia ennill ysgoloriaethau i ddysgu Cymraeg yng Nghymru dros yr haf.
Ysgoloriaethau i ddysgwyr o’r Wladfa
Mae tair ysgoloriaeth, gwerth £2,000 yr un, ar gael i ddysgwyr o Batagonia astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros haf 2018.
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n ariannu’r ysgoloriaethau, a fydd yn galluogi tri pherson o’r Wladfa i dreulio mis yn dilyn cwrs gyda Phrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Aberystwyth, dau o ddarparwyr y Ganolfan Genedlaethol.
Mae gofyn i’r dysgwyr sy’n gwneud cais am ysgoloriaeth fod ar lefel Canolradd o leiaf a’u bod wedi gwneud ymrwymiad pendant eisoes i ddysgu’r iaith. Gweinyddir yr ysgoloriaethau gan y Cyngor Prydeinig. Mae’r ffurflen gais ar gael o wefan y Cyngor Prydeinig https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/addysg/prosiect-yr-iaith-gymraeg. Bydd yn rhaid ei llenwi a’i dychwelyd at iepwales@britishcouncil.org erbyn 1 Mawrth 2018.
Yn dilyn cyfnod yng Nghymru yn gwella’u sgiliau iaith, bydd disgwyl i’r dysgwyr fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl dychwelyd adref, gan gyfrannu at fywyd Cymraeg y Wladfa, yn weithgareddau neu ddosbarthiadau.
Un sydd wedi elwa o ysgoloriaeth fel hon yw Noe Sanchez Jenkins sy’n gweithio fel athrawes yn Ysgol Gymraeg yr Andes, ac a dreuliodd fis ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2017.
Meddai Noe:
“Dysgais i lawer ar y cwrs haf am Gymru, ei hanes, ei barddoniaeth, ei diwylliant a’i hiaith. Ro’n i wrth fy modd yn Aberystwyth, ac roedd cyfle i ni ddefnyddio’r Gymraeg yn yr holl weithgareddau. Roedd y cwrs yn ddiddorol iawn ac fe wnes i ffrindiau â dysgwyr eraill o nifer o wledydd megis Japan, Awstria a Ffrainc.
“Y peth gorau am y cwrs oedd bod yn rhaid i ni ddefnyddio’r Gymraeg drwy’r amser! Roedd hi hefyd yn braf iawn cael bod yng Nghymru lle bu fy nghyndeidiau yn byw.”
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Ry’n ni’n gyffrous iawn i gynnig y tair ysgoloriaeth yma i bobl o’r Wladfa sy’n awyddus i ddod i Gymru i ddysgu ac i wella’u Cymraeg. Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Ariannin, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.”
Diwedd