Mwynhau ysgrifennu? Dysgu ar lefel Uwch neu Gloywi?
Bydd gweithdai ysgrifennu creadigol yn cael eu cynnal gyda Ffion Dafis, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws.
Bydd yn gyfle i chi ddysgu sut i ysgrifennu deialog a chreu cymeriadau difyr ar gyfer y llwyfan theatrig.
Mae angen dod i’r tri sesiwn canlynol:
Nos Fawrth, 5 Mai, 7pm-8.30pm
Nos Fawrth, 12 Mai, 7pm-8.30pm
Nos Fawrth, 19 Mai, 7pm-8.30pm
Mae lle i 15 o bobl felly cyntaf i’r felin!
Y dyddiad cau i gofrestru ydy 28 Ebrill.
Llenwch y ffurflen isod i gofrestru.