Manylion y Cwrs
Cwrs i Bwy: Athrawon ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg sydd â rhywfaint o sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg. (Athrawon y Cyfnod Sylfaen a/neu CA2)
Lefel: Cymraeg mewn Blwyddyn
Tymor 1 – Lefel Sylfaen
Tymor 2 – Lefel Canolradd
Tymor 3 – Lefel Uwch
Hyd: 3 thymor ysgol, llawn amser
Dull Dysgu: Dapariaeth gyfunol, 3 diwrnod ar-lein a 2 ddiwrnod mewn ‘Hwb’ lleol
Lleoliad: 3 diwrnod ar-lein a 2 ddiwrnod mewn ‘Hwb’ lleol
Bwriad y cwrs:
- Canolbwyntio ar sgiliau iaith ac anelu tuag at ruglder erbyn diwedd y flwyddyn.
- Datblygu athrawon i fod yn bencampwyr iaith yn eu hysgolion yn ogystal â bod yn ymarferwyr sy’n gallu arwain ar y Gymraeg o fewn rhwydwaith eu hysgolion.
- Rhoi pwyslais ar ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o sgiliau addysgeg dysgu iaith fel y gall yr athrawon ddychwelyd i’w hysgolion i arwain ar y Gymraeg yn hyderus a darparu hyfforddiant i’w cydweithwyr.
Er mwyn mynegi diddordeb mynychu'r cwrs yma, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.