Mae'r Cwrs Dwys Dau Dymor yn gyfle i Ymarferwyr Addysg ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod Tymor yr Hydref a Thymor y Gwanwyn.
Cwrs i Bwy: Athrawon ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg sydd â rhywfaint o sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (Athrawon y Cyfnod Sylfaen a/neu CA2).
Lefel: Sylfaen a Chanolradd
Tymor 1 (Tymor yr Hydref) – Lefel Sylfaen
Tymor 2 (Tymor y Gwanwyn) – Lefel Canolradd
Hyd: 2 dymor ysgol, llawn amser
Dull Dysgu: Dapariaeth gyfunol mewn grŵp, dan arweiniad tiwtor - dysgu wyneb yn wyneb a dysgu yn rhithiol
Lleoliad: 3 diwrnod rhithiol a 2 ddiwrnod mewn ‘Hwb’ lleol
Bwriad y cwrs:
- Dysgu’r iaith a dysgu sut i addysgu’r Gymraeg yn drawsgwricwlaidd yn effeithiol yn yr ysgol.
- Dysgu am fethodolegau dysgu iaith er mwyn arfogi’r athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i godi safonau yn yr ysgol.
- Ar ôl cwblhau'r ddau dymor, mae'n bosib y bydd modd i chi dderbyn cwrs dilyniant yn ystod Tymor yr Haf ar Lefel Uwch, ond ni fydd cyllid ar gyfer costau cyflenwi ar gyfer Tymor 3.