- Dyma gyfle i ddysgwyr sydd wedi cwblhau Cwrs Lefel Sylfaen i Adolygu
- Cyfle i adolygu’r cwrs Sylfaen gyda chwrs preswyl ar 19.05.24 – 23.05.24 cyn camu ‘mlaen i gwrs Lefel Canolradd.
- Cwrs preswyl (Llun-Gwener) yn Nant Gwrtheyrn fydd y cwrs a bydd yn brofiad trochi arbennig i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu hiaith newydd, ychydig o ddiwylliant Cymreig, a chymdeithasu gyda chriw o unigolion ar yr un lefel ieithyddol.
- Yn arbennig o berthnasol i rai sydd wedi cwblhau Cwrs Hunan-astudio Ar-lein Lefel Sylfaen i Ymarferwyr mewn Addysg.
Cyrsiau Preswyl i'r Gweithlu Addysg
Dyma gyfleoedd i ymuno gydag un o gyrsiau preswyl Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r cyrsiau preswyl hyn yn benodol ar gyfer y Gweithlu Addysg, ac mae'r manylion llawn isod.
- Cynhelir sgwrs dros y ffôn er mwyn sicrhau cofrestriad ar y lefel gywir.
- Bydd llety mewn ystafell sengl en-suite, a lluniaeth wedi eu cynnwys.
- Mae’r cyrsiau wedi eu cyllido yn llawn.
- Bydd cost ychwanegol o £55 am wely a brecwast os ydych eisiau aros yn y Nant ar y nos Sul cyn y cwrs.
- Ni ddarperir costau teithio.
- Yn ystod blwyddyn Ebrill 2025-Mawrth 2026, cynigir grant o £150 y dydd ar gyfer costau cyflenwi. Bydd rhaid mynychu pob diwrnod o'r cwrs er mwyn i'ch Awdurdod Lleol hawlio'r grant hwn.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch trwy ebostio cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org neu ffonio 01758 750 334 a dewis yr Adran Addysg.

Cwrs Preswyl Estynedig Lefel Mynediad ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.
- Wythnos Breswyl 1: 2/6/25-6/6/25
- 6 gwers ar lein: Dyddiadau i’w cadarnhau
- Wythnos Breswyl 2: 7/7/25-11/7/25
- 1 Sesiwn gefnogi ar-lein ar ddiwedd y cyfnod: Dyddiadau amrywiol
Nod y cwrs yma yw cynyddu sgiliau siaradwyr newydd yn gyflym a rhoi hyder iddynt ddefnyddio Cymraeg syml yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn eu galluogi i gyfrannu at amgylchedd Gymraeg a Chymreig eu hysgolion.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch trwy ebostio cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org neu ffonio 01758 750 334 a dewis yr Adran Addysg.