Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

WSOL ac ESOL – Cyfnewid gwybodaeth

23 Mehefin

Nod y cyfarfod yw i ymarferwyr Dysgu Cymraeg ac ymarferwyr ESOL ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth a phrofiad. Bydd ymarferwyr ESOL yn dysgu am yr adnoddau Dysgu Cymraeg sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ESOL a bydd ymarferwyr Dysgu Cymraeg yn dysgu am fod yn ymwybodol o drawma wrth ddysgu. Mae'r gweithdy ar gyfer ymarferwyr a fydd yn dysgu cyrsiau Croeso i Bawb. 

Dydd Llun, 23 Mehefin yng Ngholeg Cambria, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam, LL12 7AB

1pm:                             Coffi a chofrestru

1.30pm-3pm:           Dysgu 'Croeso i Bawb', Eirian Conlon, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

3pm:                             Egwyl

3.15pm-4.45pm:      Dysgu sy'n ystyriol o drawma, Natalie Robinson-Powell, Coleg Cambria 

Bydd offer cyfieithu ar gael. 

Llenwch y ffurflen isod i gofrestru.

Y dyddiad cau i gofrestru yw 16 Mehefin. 

Cofrestru