Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Croeso!

18-25 oed? Mae cyrsiau ar gael am ddim i chi!

Helo!

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i bobl 18-25 mlwydd oed.*

Mae cyrsiau lefel 'Mynediad' ar gyfer dechreuwyr. 

Mae cyrsiau lefel 'Sylfaen' ar gyfer pobl sy’n siarad tipyn o Gymraeg ac sy’n hyderus gyda ffurfiau presennol, gorffennol a dyfodol y ferf.

Mae cyrsiau hefyd ar gael ar lefelau dysgu eraill, os dych chi'n siarad Cymraeg yn barod ac eisiau gwella eich sgiliau. 

*Bydd eich disgownt yn digwydd yn awtomatig wrth i chi gofrestru. Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch swyddfa@dysgucymraeg.cymru

MWYNHAU EICH CYMRAEG

Mae sawl ffordd o fwynhau’r Gymraeg cyn bod eich cwrs yn  dechrau – beth am wrando ar fiwsig Cymraeg ar Spotify neu Radio Cymru neu wylio rhai o raglenni Cymraeg S4C.

Dilynwch ni ar TikTok, TwitterInstagramFacebook a YouTube.

Unrhyw gwestiynau?  E-bostiwch swyddfa@dysgucymraeg.cymru

MWYNHAU DYSGU CYMRAEG

Emily Gair o brofiad
"Dw i wedi teimlo mod i’n perthyn i Gymru ers dechrau dysgu Cymraeg. Mae hefyd i mi yn fodd o ddangos parch.”
Bethan Gair o brofiad
"Y peth gorau i mi am ddysgu Cymraeg ydy cael sgwrs efo pobl ar y stryd neu mewn siopau – gallu siarad Cymraeg yn y gymuned.”
Nicole Gair o brofiad
"Y mwya o ieithoedd y medri di siarad, y mwya o bobl y medri di siarad gyda nhw... "
Lewis Gair o brofiad
"Dw i’n falch iawn fy mod i wedi dechrau’r daith i ddod yn siaradwr Cymraeg. Mae’n teimlo fel rhywbeth y dylwn allu ei wneud ar ôl byw fy holl fywyd yng Nghymru."
Jonathan Gair o brofiad
"Mae gallu siarad Cymraeg yn cŵl iawn. Dw i’n teimlo nawr fod gen i fwy o gyswllt gyda’r gymdeithas a’r diwylliant Cymraeg."
Natalie Gair o brofiad
"Dw i’n cael gymaint o bleser o ddysgu Cymraeg, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl amdano jest i fynd amdani.”
Seren Gair o brofiad
"Mae’n beth positif iawn gweld cynnwys Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – dw i wedi gweld comedi gwych ac wedi cael fideos pop-up Cymraeg ar fy ffrwd Facebook.”

Chwilio am gwrs

cwrs ar gael
Dod o hyd i gwrs