Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ystadegau 2021 - 2022

Data Dysgwyr Dysgu Cymraeg

Ystadegau Dysgu Cymraeg 2021-2022

Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).

Mae’r data sy'n cael eu casglu gan y Ganolfan yn wahanol i’r data a gasglwyd ar gyfer y sector yn y gorffennol. Mae’r dull o gasglu’r data hefyd yn wahanol.

Ers y pandemig yn 2020-2022 mae gweithgaredd y sector wedi newid yn sylweddol.  Mae bellach mwy o ddewis i ddysgwyr o ran dulliau dysgu ac mae  cynlluniau amrywiol yn ffurfio rhan o’r sector, gan gynnwys dysgu cymunedol, dysgu yn y gweithle a chyrsiau i gynulleidfaoedd penodol e.e. teuluoedd.  Mae’r data bellach yn adlewyrchu’r holl weithgaredd hyn.

Cyhoeddi Data 2021 - 2022

Dyma’r data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021-2022. 

  • Mae'r ystadegau yn adrodd ar niferoedd cyrsiau wnaeth orffen rhwng 1 Awst 2021 a 31 Gorffennaf 2022.
  • 2017-2018 oedd y gwaelodlin cenedlaethol ac felly gallwn wneud cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn wedi hyn.
  • Mae cyrsiau Cymraeg Gwaith yn rhedeg o Ebrill i Fawrth. At bwrpas y cyhoeddiad cyfrifir data’r cyrsiau sydd wedi dod i ben erbyn Gorffennaf 2022 yn unig.
  • Mae data 2021-2022 o’i gymharu â data 2020-2021 yn cynnwys mwy o ddysgwyr yn dysgu ar lefelau uwch. 
  • Mae cynnydd yn niferoedd y dysgwyr flwyddyn ar flwyddyn ers 2017-2018 os eithrir y flwyddyn 2019-2020 ble bu cynnydd sylweddol yn niferoedd y dysgwyr wnaeth droi at y cyrsiau hunan-astudio ar lefel blasu ar ddechrau cyfnod y pandemig.

 

Cyfnod Data
1 Awst 2021 - 31 Gorffennaf 2022

Dyddiad cyhoeddi
Dydd Gwener 31 Mawrth 2023

Nifer y dysgwyr unigryw

Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu dilyn yn ystod y flwyddyn.

  • Yn 2017-2018, roedd 12,680 o ddysgwyr unigryw.
  • Yn 2018-2019, roedd 13,260 o ddysgwyr unigryw.
  • Yn 2019-2020, roedd 17,505 o ddysgwyr unigryw, dyma’r flwyddyn eithriadol ble bu cynnydd yn niferoedd y dysgwyr a ddilynodd gyrsiau hunan-astudio ar lefel blasu ar gychwyn cyfnod y pandemig.
  • Yn 2020-2021, roedd 14,965 o ddysgwyr unigryw.
  • Yn 2021-2022, roedd 15,260 o ddysgwyr unigryw, cynnydd o 2% o’i gymharu â 2020-2021.
Nifer y gweithgareddau dysgu

Gall dysgwyr fynychu mwy nag un gweithgaredd dysgu ar lefel neu ddwyster gwahanol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, gall dysgwr unigol fynychu cwrs 170 - 259 awr ar lefel Mynediad yn ogystal â chwrs 'fesul awr' ar lefel Sylfaen yn ystod y cyfnod. Cyfrifir hyn fel dau weithgaredd dysgu.

  • Cymerodd dysgwyr 2021-2022 ran mewn 27,345 o weithgareddau dysgu, lleihad o 6% o’i gymharu â 2020-2021.
  • Mae dysgwyr unigol yn parhau i ddysgu yn fwy dwys na’r cyfnod cyn y pandemig yn 2020.
Lefelau Dysgu

Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar bump lefel.

  • Yn 2019-2020 roedd 68% o ddysgwyr ar lefel Mynediad.  Roedd 11% ar lefel Sylfaen a 19% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd). 
  • Yn 2020-2021 roedd 63% o ddysgwyr ar lefel Mynediad. Roedd 14% ar lefel Sylfaen a 23% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).
  • Yn 2021-2022 roedd 60% o ddysgwyr ar lefel Mynediad. Roedd 15% ar lefel Sylfaen a 25% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).
  • Yn ystod 2021-2022 bu cynnydd yn y dysgwyr oedd yn dysgu ar lefelau Sylfaen, Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).
  • Mae rhaglen o weithgareddau newydd Codi Hyder a Defnyddio yn cael ei chategoreiddio o dan y lefel Hyfedredd ar hyn o bryd, bydd hynny’n cael ei gofnodi ar wahân ar gyfer 2022-2023 wrth i’r rhaglen hyn ehangu.
  • Bu cynnydd yn niferoedd y dysgwyr sy’n mynychu cyrsiau ‘pob lefel’ gyda’r niferoedd yn codi o 75 yn 2020-2021 i 440 yn 2021-2022. Mae rhain yn cynnwys gweithgareddau megis Sadyrnau Siarad.  Mae hyn yn sgil cynnydd yn y gweithgareddau cefnogi dysgu er mwyn sicrhau bod mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn dilyn diffyg gallu gwneud hyn ystod cyfnod y pandemig.
Oed dysgwyr

Cyfrifir oed y dysgwr o ddydd cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw. Ar gyfer 2021-2022, cyfrifir oed y dysgwr ar 1 Awst 2021.  Y dysgwr sy’n gyfrifol am gyflwyno ei ddyddiad geni.

  • Mae 12,955 o ddysgwyr 2021-2022 o fewn yr ystod oedran gweithio, 16-64 oed, sydd yn 85% o'r holl ddysgwyr sydd wedi cofnodi eu dyddiad geni.