Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ystadegau 2022 - 2023

Data Dysgwyr Dysgu Cymraeg

Ystadegau Dysgu Cymraeg 2022-2023

Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).

Dechreuodd y Ganolfan gyhoeddi data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-2018.

Mae’r data yn adlewyrchu’r holl weithgaredd y sector Dysgu Cymraeg, gan gynnwys dysgu cymunedol, dysgu yn y gweithle a chyrsiau i gynulleidfaoedd penodol e.e. teuluoedd.  Mae’r data hefyd yn cynnwys ystod o ddulliau dysgu gan gynnwys dysgu wyneb yn wyneb, dysgu rhithiol, dysgu cyfunol a hunan-astudio.

Cyhoeddi Data 2022 - 2023

Dyma’r data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022-2023. 

  • Mae'r ystadegau yn adrodd ar niferoedd cyrsiau wnaeth orffen rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2023.
  • 2017-2018 oedd y gwaelodlin cenedlaethol ac felly gallwn wneud cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn wedi hyn.
  • Mae cyrsiau Cymraeg Gwaith yn rhedeg o Ebrill i Fawrth. At bwrpas y cyhoeddiad cyfrifir data’r cyrsiau sydd wedi dod i ben erbyn Gorffennaf 2023 yn unig.
  • Mae data 2022-2023 o’i gymharu â data 2021-2022 yn cynnwys mwy o ddysgwyr yn dysgu ar lefelau uwch. 
  • Mae cynnydd yn niferoedd y dysgwyr flwyddyn ar flwyddyn ers 2017-2018.

(Mae’r flwyddyn 2019-2020 yn eithriad ble bu cynnydd sylweddol yn niferoedd y dysgwyr wnaeth droi at y cyrsiau

hunan-astudio ar lefel blasu ar ddechrau cyfnod y pandemig).

  • Cyhoeddir data am ethnigrwydd y dysgwyr am y tro cyntaf eleni.
  • Cyhoeddir data am y dulliau dysgu am y tro cyntaf eleni.

 

Cyfnod Data
1 Awst 2022 - 31 Gorffennaf 2023

Dyddiad cyhoeddi
Dydd Mawrth 2 Ebrill 2024

Nifer y dysgwyr unigryw

Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu dilyn yn ystod y flwyddyn.

  • Mae cynnydd yn niferoedd y dysgwyr flwyddyn ar flwyddyn ers 2017-2018.
    • Mae’r flwyddyn 2019-2020 yn eithriad ble roedd 17,505 o ddysgwyr unigryw (dyma’r flwyddyn eithriadol ble bu cynnydd yn niferoedd y dysgwyr a ddilynodd gyrsiau hunan-astudio ar lefel blasu ar gychwyn cyfnod y pandemig).
  • Yn 2022-2023, roedd 16,905 o ddysgwyr unigryw, cynnydd 11% o’i gymharu â 2021-2022.
Nifer y gweithgareddau dysgu

Gall dysgwyr fynychu mwy nag un gweithgaredd dysgu ar lefel neu ddwyster gwahanol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, gall dysgwr unigol fynychu cwrs 170 - 259 awr ar lefel Mynediad yn ogystal â chwrs 'fesul awr' ar lefel Sylfaen yn ystod y cyfnod. Cyfrifir hyn fel dau weithgaredd dysgu.

  • Cymerodd dysgwyr 2022-2023 ran mewn 29,485 o weithgareddau dysgu, cynnydd o 8% o’i gymharu â 2021-2022.
Lefelau Dysgu

Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar bump lefel.

  • Yn 2022-2023 roedd 60% o ddysgwyr ar lefel Mynediad. Roedd 16% ar lefel Sylfaen a 24% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).
  • Mae’r cyfraddau yn gyson iawn â 2021-2022.

 

Oed dysgwyr

Cyfrifir oed y dysgwr o ddydd cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw. Ar gyfer 2021-2022, cyfrifir oed y dysgwr ar 1 Awst 2021.  Y dysgwr sy’n gyfrifol am gyflwyno ei ddyddiad geni.

  • Mae 14,275 o ddysgwyr 2022-2023 o fewn yr ystod oedran gweithio, 16-64 oed, sydd yn 84% o'r holl ddysgwyr sydd wedi cofnodi eu dyddiad geni. 
  • Mae 2,170 o ddysgwyr 2022-2023 o fewn yr ystod oedran 16-24 oed, cynnydd o 9% o’i gymharu â 2021-2022.
Dull dysgu

Yn sgil pandemig Covid-19, trosglwyddwyd yr holl ddarpariaeth Dysgu Cymraeg i gyrsiau rhithiol, a pharhaodd y drefn hon, fwy neu lai,  dros y ddwy flynedd roedd Covid ar ei anterth.  Sefydlwyd patrymau newydd o weithio, patrymau oedd yn hollol newydd i’r sector Dysgu Cymraeg.  Llwyddwyd i gynnal ac ymestyn y gwasanaeth yn llwyddiannus, a gwelwyd cynnydd yn y niferoedd oedd yn dysgu’r Gymraeg a chynnydd yn y gweithgareddau dysgu.

Mae’r Ganolfan yn falch o’r dewis eang sydd ar gael i ddysgwyr bellach, gan gynnwys dulliau wyneb yn wyneb, rhithiol, cyfunol (rhithiol a wyneb yn wyneb) ac hunan-astudio.  Mae niferoedd y dysgwyr sy’n manteisio ar y cyfleoedd Dysgu Cymraeg wedi tyfu’n gyson ers sefydlu’r Ganolfan yn 2016.  Am y tro cyntaf eleni rydym yn cyhoeddi data am y dulliau amrywiol sy’n cael eu cynnig gan y sector.

  • Yn 2022-2023 roedd 25% o’n dysgwyr wedi dilyn cyrsiau wyneb yn wyneb, 44% wedi dilyn cyrsiau rhithiol, 5% wedi dilyn cyrsiau cyfunol, 24% wedi dilyn cyrsiau hunan-astudio a 3% wedi dilyn cyrsiau preswyl.
Ethnigrwydd

Mae opsiwn i ddysgwyr nodi ethnigrwydd. Nid yw'r maes yn ofynnol, mae'n bosib dewis 'gwrthod cyflwyno gwybodaeth' neu ei adael yn wag.

  • Yn 2022-2023 roedd 85% o’r dysgwyr unigryw wedi cofnodi gwybodaeth am ethnigrwydd.
  • Roedd 4% o’r dysgwyr wedi cofnodi ethnigrwydd amrywiol gyda 96% wedi cofnodi ethnigrwydd gwyn.