Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu dilyn yn ystod y flwyddyn.
- Mae data 2023-2024 yn adrodd ar y nifer uchaf o ddysgwyr ers i'r Ganolfan ddechrau cyhoeddi data.
- Yn 2023-2024 roedd 18,330 o ddysgwyr unigryw, cynnydd o 8% o’i gymharu â 2022-2023.
- Mae 2023-2024 yn adrodd ar gynnydd o 45% o ddysgwyr unigryw o’i gymharu â’r niferoedd yn y cyhoeddiad cyntaf yn 2017-2018.