Nant Gwrtheyrn
Llithfaen
Pwllheli
Gwynedd
Cymru
LL53 6NL
addysg@nantgwrtheyrn.org
01758 750 334
addysg@nantgwrtheyrn.org
01758 750 334
Os ydych yn byw* yn lleol gallwch deithio i'r Nant bob dydd am bris gostyngedig o £185. *Mae'r cynnig yma ar gyfer unigolion sydd â'u prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn. Gallwch ddewis yr opsiwn hwn wrth gofrestru.
Cyrsiau ar lefel Sylfaen, Canolradd, Uwch, Gloywi - Siarad a Gloywi - Ysgrifennu wedi eu cyllido yn llawn i unrhyw un sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli yng Nghymru. Cysylltwch â cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.
Yma yn Nant Gwrtheyrn ein nod ydy rhoi'r profiad gorau bosibl i chi o ddysgu Cymraeg, a'r gefnogaeth i gyrraedd eich nod personol chi...
Rydym yn annog myfyrwyr i drafod eu hanghenion gyda thiwtor ymlaen llaw ac rydym yn anelu at gael pob myfyriwr ar y cwrs sydd fwyaf addas ar gyfer ei anghenion personol.
Os ydych chi'n ansicr o'ch lefel...
Awgrymwn eich bod yn cysylltu â thiwtor yn Nant Gwrtheyrn i drafod eich anghenion trwy ffonio 01758 750334. Ni fydd y tiwtor ar gael bob amser gan y bydd yn dysgu, ond bydd aelod o staff y Swyddfa yn cymryd eich manylion ac yn trefnu i'r tiwtor gysylltu â chi cyn gynted ag sy'n bosib.
Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i'ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.