Cwestiynau cyffredinol
Diogelu data
Pam eich bod yn gofyn am wybodaeth bersonol gen i wrth i mi gofrestru? |
Er mwyn cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg bydd disgwyl i chi gwblhau ffurflen gofrestru. Yn ystod y broses bydd cais i chi ddarparu gwybodaeth bersonol; mae rhywfaint o'r wybodaeth yn hanfodol a rhywfaint yn opsiynol. Ariennir cyrsiau Dysgu Cymraeg drwy nawdd Llywodraeth Cymru ac mae disgwyl felly i gasglu gwybodaeth am y dysgwyr. Mae'r data sy'n cael ei gasglu yn cydymffurfio â gofynion Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'n ofynnol i ddarparwyr dysgu ôl-16 gyflwyno data ar ddysgwyr yng Nghymru drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Caiff y data ei gasglu at ddibenion cynllunio a chyllido darpariaeth ôl-16, monitro perfformiad a datblygu strategol. Mae hefyd yn ffynhonnell swyddogol o ystadegau am ddysgwyr ôl-16 (heblaw addysg uwch) yng Nghymru. Gofynnir i chi ddarllen a derbyn hysbys data ar ddiwedd y broses gofrestru sy'n esbonio ymhellach pam ein bod yn casglu'r wybodaeth a sut mae'n cael ei phrosesu a'i rhannu. Os yr hoffech drafod hyn mewn mwy o fanylder, mae croeso i chi gysylltu â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol neu eich ddarparwr lleol. |
Sut y byddwch yn defnyddio fy ngwybodaeth bersonol? |
Mae gwybodaeth lawn am sut y byddwn yn casglu, prosesu a rhannu’r data ar gael yn yr hysbys data. |
Cofrestru
Dydw i ddim am gofrestru ar-lein. Oes ffordd arall o gofrestru? |
Os nad dych chi am gofrestru ar-lein mae modd i chi gwblhau ffurflen gofrestru papur a’i hanfon at eich darparwr lleol drwy’r post neu e-bost. I dderbyn copi o’r ffurflen cysylltwch â'ch darparwr lleol; mae eu manylion yma. Gall eich darparwr lleol hefyd roi cymorth i chi gyda’r broses gofrestru. |
Does gen i ddim cyfeiriad e-bost, ydw i dal yn gallu cofrestru? |
Mae’r Safle Rhyngweithiol newydd dysgucymraeg.cymru yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i chi yn ystod y daith o ddysgu Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys ymarferion dysgu Cymraeg i gyd-fynd â lefel eich cwrs, newyddion am ddigwyddiadau lleol a chyfle i roi adborth ar eich profiadau dysgu Cymraeg. Er mwyn manteisio ar y cyfleoedd hyn mae’n rhaid cael cyfeiriad e-bost, a byddwch yn derbyn cais am yr wybodaeth hon yn ystod y broses gofrestru. Mae modd creu cyfeiriad e-bost yn syml iawn a gall eich darparwr lleol roi cymorth i chi ar sut i wneud hyn. Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, mae'n bosib cwblhau ffurflen gofrestru papur a’i dychwelyd at eich ddarparwr lleol. |
Dw i wedi llenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein, ond nid wyf yn derbyn cadarnhad bod y broses wedi cwblhau. |
Ymddiheuriadau am hyn, gobeithio y gallwn eich helpu, mae angen i chi wirio’r canlynol: · Bod yr holl flychau yn gofyn am wybodaeth yn y ffurflen gofrestru wedi eu cwblhau. Os nad yw’r wybodaeth angenrheidiol · Bod eich cyfeiriad e-bost wedi ei nodi yn gywir yn y blwch ffurflen gofrestru. · Nad yw’r neges wedi ei danfon i flwch ‘junk’ dy e-bost. · Bod CACHE eich cyfrifiadur wedi ei glirio, er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio fersiwn mwyaf cyfredol o dysgucymraeg.cymru. Os dych chi'n parhau i gael problemau cysylltu gyda eich darparwr lleol, gallant wirio os yw’r cofrestriad wedi ei dderbyn a darparu cymorth pellach i chi. |
Rwyf eisoes wedi cofrestru ar un cwrs. Pan fyddaf yn ceisio mewngofnodi a chofrestru ar gwrs arall, rhaid imi roi fy holl fanylion eto. A yw hyn yn gywir? |
Dych chi eisoes wedi darparu rhai manylion wrth greu cyfrif cychwynnol ar dysgucymraeg.cymru, ac wedi darparu gwybodaeth angenrheidiol. Nid oes angen i chi ail ddarparu’r wybodaeth yma, ond rydym yn gofyn am rywfaint o wybodaeth gennych wrth gofrestru ar gwrs arall. Mae hyn yn caniatáu i ni sicrhau bod eich manylion yn parhau yn gywir a chyfredol. Mae rhywfaint o'r wybodaeth yn hanfodol a rhywfaint yn opsiynol. |
Dw i wedi cofrestru ar y cwrs anghywir. Sut ydw i’n newid fy nghofrestriad? |
Nid yw hyn yn broblem. Yr unig beth sydd yn rhaid i chi wneud yw cysylltu gyda eich darparwr lleol a byddant yn gallu eich helpu i gofrestru ar y cwrs cywir. Mae eu manylion cyswllt yma. |
Dw i ddim wedi derbyn neges yn cadarnhau fy mod wedi cofrestru ar y cwrs. Be ddylwn i wneud? |
Ymddiheuriadau am hyn, gobeithio y gallwn eich helpu chi. Awgrymwn eich bod yn gwirio'r canlynol:
Os ydych chi'n parhau i gael anawsterau, cysylltwch â'ch darparwr lleol a all wirio a yw'r cofrestriad wedi'i gwblhau. Gallant hefyd roi cymorth pellach i chi. |
Rydw i’n byw dramor ond am fynychu cwrs Dysgu Cymraeg. Sut ydw i’n cofrestru fy nghyfeiriad? |
Mae’n nodi ar y ffurflen gofrestru mai’r cyfeiriad preswylio tra yn y Deyrnas Gyfunol sydd angen ei nodi wrth gofrestru. Mae posib y bydd eich darparwr lleol yn cysylltu am ragor o wybodaeth cyn i chi fynychu’r cwrs. |
Cost a gostyngiadau
Sut ydw i’n talu am y cwrs? |
Rhaid i chi gofrestru gyntaf ar gwrs cyn i’r taliad gael ei wneud. Mae dwy ffordd i dalu am gwrs: Opsiwn 1: Mae yna adran yn eich proffil sy'n rhestru pob cwrs rydych chi wedi'i gofrestru. Os nad yw cwrs wedi'i dalu, byddwch yn sylwi ar fotwm 'Talu' gwyrdd wrth ymyl y cwrs. Byddwch yn mynd trwy’r camau i dalu ar-lein ar ôl hyn. Opsiwn 2: Ar ôl cofrestru ar gwrs, byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau y bydd eich darparwr lleol yn cysylltu maes o law i drefnu taliad. |
Oes gostyngiadau ar gael ar gyfer dysgu Cymraeg? |
Mae cynlluniau gostyngiadau ar gael, i drafod hyn ymhellach cysylltwch gyda'ch darparwr lleol. Mae modd hefyd gwneud cais am grant i’r Gronfa Cymorth Ariannol. Mae mwy o wybodaeth a’r ffurflen gais i’w chael yma. |
Dw i ddim eisiau talu ar-lein. Oes opsiwn arall? |
Cysylltwch gyda eich darparwr lleol i drafod trefniadau eraill. |
Wedi anghofio cyfrinair?
Dw i wedi anghofio fy nghyfrinair. Sut ydw i’n ailosod fy nghyfrinair? |
Gallwch ailosod eich cyfrinair yn syth ar y dudalen 'Mewngofnodi'. Mae'r botwm 'Mewngofnodi' i'w weld ar dop pob tudalen Dysgu Cymraeg ar ein gwefan |
Cadw eich porwr yn gyfredol
Mae ein system yn cael ei diweddaru yn gyson i sicrhau ein bod yn defnyddio’r technolegau gwe mwyaf cyfredol.
Mae cadw eich porwr rhyngrwyd yn gyfredol yn bwysig am resymau diogelwch ac er mwyn sicrhau bod tudalennau gwe yn arddangos yn gywir.
O fis Ionawr 2022, ni fydd ein hadnoddau digidol yn cefnogi Internet Explorer (IE11). Os ydych chi’n defnyddio IE11 ar hyn o bryd, rydym yn eich argymell i ddefnyddio porwr a gefnogir fel Microsoft Edge, Google Chrome a Mozilla Firefox.
Clirio storfa eich porwr
Mae storfa eich porwr yn cynnwys darnau o ddata wedi’u storio, megis lluniau a HTML, sydd eu hangen er mwyn gweld gwefan. Mae’n cael ei defnyddio i gyflymu amser llwytho tudalen. Mae’r rhain yn cael eu storio fel cof tymor byr ar eich dyfais (h.y. cyfrifiadur, gliniadur, tabled, ffôn clyfar).
Fodd bynnag, wrth i ni barhau i ddatblygu a diweddaru ein gwefan yn rheolaidd, rydym yn eich argymell i glirio storfa eich porwr er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio fersiwn diweddaraf o’n gwefan. Wrth beidio â chlirio storfa eich porwr, gall achosi problemau a gallai effeithio ar y gwasanaeth rydym yn ceisio ei gynnig i chi ar ein gwefan.
Mae llawer o ddogfennau ar-lein ynglŷn â sut mae gwneud hyn ond dyma rai adnoddau allanol i’ch helpu chi i glirio’ch storfa ar rai o’r porwyr mwyaf cyffredin: