Cwblhewch y ffurflen isod er mwyn i ni ddeall mwy am eich anghenion:
Ffurflen Cofrestru Academi Cymraeg Gwaith
Rydym yn falch o gyhoeddi Academi Cymraeg Gwaith ar ein platfform dysgucymraeg.cymru.
Bydd Academi Cymraeg Gwaith yn darparu hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth i Gyflogwyr, er mwyn sicrhau dealltwriaeth ar gynllunio a chynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu.
Cwblhewch y ffurflen isod er mwyn i ni ddeall mwy am eich anghenion:
Ffurflen Cofrestru Academi Cymraeg Gwaith
27/01/2025 (4pm - 6pm) + 17/02/2025 (4pm - 5pm) - Gweithdy Cymraeg / Welsh Workshop |
28/01/2025 (12pm - 2pm) + 18/02/2025 (12pm - 1pm) - Gweithdy Cymraeg / Welsh Workshop |
29/01/2025 (9am - 11am) + 19/02/2025 (9am - 10am) - Gweithdy Cymraeg / Welsh Workshop |
30/01/2025 (4pm-6pm) + 20/02/2025 (4pm-5pm) - Gweithdy Saesneg / English Workshop |
I gofrestru cysylltwch â cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru / To register please contact cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru
“Roedd mynychu’r gyfres o weithdai Cynllunio a Rheoli Gweithleoedd Dwyieithog yn fuddiol iawn o ran cael rhannu arfer da, a thrafod a dod i’r afael gyda heriau mewn ffordd bositif. Roedd nifer o sefydliadau gwahanol yn mynychu, rhai gyda chynlluniau iaith ac eraill yn gweithio i gydymffurfio gyda’r Safonau. Cyfle gwych i ddod o hyd i syniadau creadigol i ddod a’r iaith Gymraeg yn fyw yn y gweithle. O ran cynllunio’r gweithlu fel dilyniant o’r hyfforddiant, rydym yn parhau i asesu sgiliau’r Gymraeg ar gyfer swyddi penodol, ac yn cynnig cyfleoedd i staff ddysgu a gwella’u sgiliau Cymraeg. O ganlyniad i’r hyfforddiant penodol hwn, rydym yn bwriadu creu swydd Swyddog Hwyluso’r Iaith Gymraeg i gynnal mwy o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac adnoddau i annog defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, ond hefyd dod a’r diwylliant Cymreig i’r gweithle tra hefyd yn cyfeirio ein staff gyfleoedd i fyw trwy’r Gymraeg yn eu cymunedau”.
Non Angharad Richards,
Pennaeth Gwasanaethau'r Gymraeg a Chydymffurfio,
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Sesiwn 1: Mehefin 28ain, 2024 9:30 – 12:30 (Rhithiol ar Zoom)
Pam cynllunio ar gyfer gweithlu Cymraeg a dwyieithog?
-Amlinellu’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi
-Cyflwyniad i broffil iaith siaradwyr Cymraeg a’u sgiliau gwaith perthnasol
-Cyflwyniad i waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
-Gwybodaeth am Cymraeg Gwaith
-Adnabod anghenion ieithyddol
Cynllunio a Rheoli Gweithleoedd Cymraeg a Dwyieithog (trwy gyfrwng y Gymraeg) |
Sesiwn 1: Chwefror 21ain, 2024 9:30 – 12:30 (Rhithiol ar Zoom) Pam cynllunio ar gyfer gweithlu Cymraeg a dwyieithog?
|
Sesiwn 2: Mawrth 5ed, 2024 9:30 – 12:30 (Rhithiol ar Zoom) Cynllunio ar gyfer rhaglen hyfforddiant iaith Gymraeg
|
Sesiwn 3: Mawrth 12fed, 2024 9:30 – 12:30 (Rhithiol ar Zoom) Gweithredu Rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg
|