Rydym yn cynnig cwrs hunan-astudio ar-lein ar lefel Mynediad ar gyfer staff sydd yn gweithio yn y maes Gofal (addas i ddechreuwyr, a rhai sydd wedi cwblhau Cyrsiau Blasu). Mae'r cwrs wedi'i ariannu'n llwyr a bydd yn cynnwys:
Tua 60 awr o ddysgu annibynnol;
Dysgu Cymraeg ar gyfer Gofalwyr i'w ddefnyddio gyda chleifion;
Ynganu'r Wyddor, lliwiau, dyddiau'r wythnos a rhifo;
Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiad;
Dysgu patrymau i ofyn ac ateb cwestiynau;
Dysgu'r amser;
siarad amdanoch chi'ch hun ac eraill;
Siarad am gynlluniau claf;
Dweud beth mae pobl wedi/ yn ei wneud;
Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiad.