Gallwch chi ddechrau dysgu Cymraeg trwy ddilyn y cwrs Hunan-astudio byr ar-lein ‘Croeso Cymraeg Gwaith'. Mae’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae wedi ei deilwra ar gyfer gwahanol sectorau hefyd.
‘Croeso ‘Nôl Cymraeg Gwaith’
Mae’r cwrs ‘Croeso ‘Nôl Cymraeg Gwaith’ yn gwrs 10 awr ddilynol fydd yn cyflwyno geirfa newydd, mewn sefyllfaoedd newydd, ac yn ymestyn eich geirfa mewn sefyllfaoedd penodol.
Mae’r cyrsiau yn 10 uned yr un (tua 10 awr o ddysgu), ac maent wedi'u rhannu'n Rhan 1 (5 uned, tua 5 awr) a Rhan 2 (5 uned, tua 5 awr).
Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau pob cwrs, proses hawdd iawn (dewiswch eich cyflogwr yn y ddewislen wrth greu cyfrif).
Mae croeso i chi e-bostio cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru os oes angen mwy o wybodaeth.
Ewch i'r cyrsiau drwy ddewis y linc isod: