Gwobr Cymraeg Gwaith 2021: Cyflogwr y Flwyddyn
ENILLYDD: Educ8
Mae Educ8 Training wedi manteisio ar wasanaethau Cymraeg Gwaith ers 2017 gyda chyflogeion yn dysgu trwy'r Cwrs Blasu Cymraeg Gwaith. Yn ystod Cynllun 2020-21 Cymraeg Gwaith, cofrestrodd 39 o staff Educ8 i ddilyn Cwrs Hunan-astudio Ar-lein Estynedig Cymraeg Gwaith ar lefel Mynediad, ac mae’n fwriad gan Educ8 i redeg yr un cwrs gyda chriw arall o staff yn ystod 2021-22 Cymraeg Gwaith. Anogir a chynigir y cyfle i bob aelod o staff ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae Educ8 yn sylweddoli pwysigrwydd y Gymraeg ac yn angerddol dros godi proffil yr iaith yn fewnol ymysg staff ac yn allanol gyda dysgwyr a rhanddeiliaid. Mae'n cymryd camau cadarnhaol i ddatblygu strategaeth ddwyieithrwydd i annog a phrif ffrydio’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad. Yn ystod 2020-21 penodwyd Swyddog Datblygu’r Gymraeg i gefnogi’r gwaith a’r ymrwymiad i’w strategaeth ddwyieithrwydd.
2il: Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi manteisio ar Gynllun Cymraeg Gwaith ers sawl blwyddyn, gyda nifer o gyflogeion yn dilyn y Cyrsiau Blasu, sawl un wedi mynychu'r cyrsiau preswyl ‘Defnyddio’ Cyrmaeg Gwaith, a nifer yn derbyn gwersi wythnosol drwy’r Cynllun Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch. Mae’r Brifysgol yn rhoi pob cefnogaeth ac anogaeth i unrhyw aelod o staff ddysgu a datblygu’i sgiliau Cymraeg. Mae ethos Cymraeg cryf yn y gweithle, a dwyieithrwydd yn amlwg ym mhob math o gyfathrebu, gyda digonedd o gyfleoedd ar gael i staff ymarfer eu Cymraeg yn anffurfiol.
Clod Uchel:
Principality sydd â dysgwyr yn dilyn y Cwrs Hunan-astudio Ar-lein Cymraeg Gwaith.
Colegau Sir Gâr a Cheredigion sydd â dysgwyr ar y Cynllun Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach.
3ydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae Cyngor Conwy wedi manteisio ar wasanaethau a chyrsiau Cymraeg Gwaith ers sawl blwyddyn – trwy Gyrsiau Blasu Ar-lein, Cyrsiau preswyl ‘Defnyddio’, ac mae cynllun penodol ar gyfer cyrsiau dwys Cymraeg Gwaith o fewn y gweithle. Mae’r cyflogwr yn hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg o ddydd i ddydd, gan roi pob cefnogaeth i gyflogeion ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg gan ryddhau amser staff i ddysgu.