Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2021: Dysgwr sydd wedi gwneud y cynnydd gorau ar lefel Mynediad

 

ENILLYDD: Kris Davies, Dysgwr Cwrs Hunan-astudio Ar-lein Estynedig Cymraeg Gwaith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Mae Kris wedi bod yn dilyn cwrs newydd, arloesol Cymraeg Gwaith – Cwrs Hunan-astudio Ar-lein Estynedig – ar lefel Mynediad ers mis Tachwedd 2020. Mae Kris wedi gwneud cynnydd arbennig mewn cyfnod mor fyr. Mae Kris wedi mynd ati i wneud dysgu digidol yn rhan o’i daith iaith ddyddiol, ac wedi mantesio i’r eithaf ar y gefnogaeth sydd ar gael trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith, gan fynychu sesiynau adolygu a sesiynau sgwrsio yn rheolaidd. Mae’n rhyfeddol bod Kris bellach yn defnyddio’i sgiliau newydd i sgwrsio’n naturiol yn Gymraeg.

Kris Davies

2il: Thomas Du Prez, Dysgwr Cwrs Cymraeg mewn Gwaith Addysg Bellach (Grŵp Llandrillo-Menai)

Dechreuoedd Thomas ddysgu Cymraeg ym mis Medi 2020 fel dechreuwr. Daw Thomas o Dde Affrica yn wreiddiol, ac mae bellach yn ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Corfforol. Mae Thomas wedi ymroi yn llwyr i ddysgu’r Gymraeg, ac mae ei gynnydd a’i hyder i ddefnyddio’r iaith i’w glodfori’n fawr. Nid yw’n colli unrhyw wersi, ac mae ganddo ddiddordeb iach yn rheolau’r iaith, yn ogystal ag yng Nghân yr Wythnos ac ehangu ei sgiliau trwy ddarllen.

Clod Uchel:

Adam Hodgkinson, Heddlu Dyfed-Powys

Mark Barrett, Prifysgol Caerdydd

Celia Baxter, Coleg y Cymoedd

Gavin Llewellyn, Y Coleg Merthyr Tudful

3ydd: Clare Davies, Dysgwr Cwrs Hunan-astudio Ar-lein Cymraeg Gwaith (Babcock Training)

Roedd Clare yn un o’r cyntaf o’r gweithle i fanteisio ar y cwrs Hunan-astudio Ar-lein estynedig. Mae wedi cofleidio’r cyfle a’r her i ddatblygu ei sgiliau, ac wedi ymroi i’r cwrs o’r dechrau’n deg. Mae Clare hefyd yn ysbrydoliaeth i’w chydweithwyr, yn awyddus i gynorthwyo eraill, ac yn llysgenad arbennig i’r cwrs.

 

Gwobrau Cenedlaethol Cymraeg Gwaith 2021