Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2021: Dysgwr lefel Sylfaen+ sy'n gwneud y Defnydd Gorau o'r Gymraeg at bwrpas Gwaith

 

ENILLYDD: Eirini Sanoudaki, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Uwch (Prifysgol Bangor)

 

Mae Eirini yn dysgu Cymraeg ers sawl blwyddyn a bellach bron iawn yn rhugl. Mae’n cynnal sesiynau addysgu gyda myfyrwyr y Brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, ac mae’n helpu cydweithwyr i ddysgu Cymraeg ar bob lefel. Mae’n cyfathrebu yn y Gymraeg gyda phawb yn y gwaith, ac yn ebostio’n Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae wedi llwyddo codi proffil y Gymraeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth, gan ysbyrydoli Ysgolion eraill i ddilyn yr esiampl dda. Mae’n goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig cyfrwng Cymraeg, ac mae wedi sôn am ei hymchwil yn y cyfryngau Cymraeg. Yn sgil ei hymchwil i ddwyieithrwydd, mae wedi cynnal gweithdai gyda theuluoedd ar godi ymwybyddiaeth am fanteision dwyieithrwydd i blant gydag anableddau dysgu. Trwy ei llwyddiant a’i defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o’i bywyd a’i gwaith, mae wedi ysbrydoli llawer iawn o bobl.

Eirini Sanoudaki

2il: Alison Newby, Dysgwr Cymraeg Gwaith Cyngor Ceredigion

Mae Alison erbyn hyn yn mynychu gwersi lefel Uwch drwy’r Cynllun Cymraeg Gwaith, gyda’r bwriad o gynyddu ei defnydd o’r Gymraeg yn ei bywyd proffesiynol. Tiwtor Rhifyddeg, Llythrennedd a Threfniadaeth Busnes yw Alison, ac mae bellach yn gallu darparu adroddiadau arsylwi dwyieithog a chynnig adborth yn Gymraeg i’w dysgwyr. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar sicrhau bod pob un o’i chyflwyniadau yn ddwyieithog, gyda phwyslais ar dermau Cymraeg allweddol. Mae Alison yn Bencampwr Cymraeg Hyfforddiant Ceredigion, ysgrifenodd eu Cynllun Gweithredu Cymraeg, ac mae wedi arwain ar y gwaith o ddatblygu adnoddau anwytho a llunio archwiliadau o’r ganolfan a’u dogfennau allweddol yn unol â Safonau’r Gymraeg. 

3ydd: Michael Simmonds-Dickens, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Uwch (Prifysgol Caerdydd)

Mae Michael yn mynychu dosbarth ar lefel Canolradd fel rhan o’r Cynllun Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi bod yn defnyddio’r Gymraeg yn ei rôl fwyfwy. Mae’n ebostio cydweithwyr yn y Gymraeg, ac yn ymateb i ymholiadau gan fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg trwy gyfrwng yr iaith. Mae hefyd wedi cynorthwyo gyda cheisiadau drwy gyfieithu gohebiaeth a gwaith papur, a chynorthwyo gwaith tîm arall yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwobrau Cenedlaethol Cymraeg Gwaith 2020