Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Tiwtor y Flwyddyn

ENILLYDD: Menna Morris, Tiwtor Cymraeg Gwaith (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

Mae Menna yn diwtor Cymraeg Gwaith ers sawl blwyddyn, ac yn addysgu dysgwyr Cyngor Conwy ar bob lefel. Derbyniodd Menna nifer uchel iawn o enwebiadau gan ddysgwyr sy’n teimlo’u bod yn lwcus ei chael hi fel tiwtor. Yn sgil pandemig Covid-19, addasodd Menna yn gyflym er mwyn dal ati i gynnal gwersi yn rhithiol i’r holl ddysgwyr, a pharhau i gynnal hwyliau da y grwpiau. Mae ei hangerdd am yr iaith Gymraeg yn treiddio i’w gwersi, ac mae ei gwersi yn egnïol a llawn hwyl. Mae’n gwybod sut i danio’r awydd i barhau i ddysgu, ac mae'n diwtor ymroddgar, amyneddgar a chefnogol iawn, sy’n sicrhau bod pob dysgwr yn cael sylw haeddiannol. Mae hefyd yn rhoi sylw yn y gwersi i deilwra cynnwys fel bo’r dysgu’n berthnasol i’r gwaith. Mae Menna yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau dysgu yn y gwersi er mwyn sicrhau eu bod yn ddiddorol, a thrwy ei gwaith caled, mae wedi arwain dysgwyr i fod yn ddigon hyderus i ddechrau defnyddio’r Gymraeg at bwrpas gwaith. 

Menna Morris, Tiwtor Cymraeg Gwaith

2il: Huw Owen, Tiwtor Cymraeg Gwaith (Cyngor Sir Ceredigion)

Mae Huw yn diwtor Cymraeg Gwaith yng Nghyngor Sir Ceredigion ers tair blynedd. Ar hyn o bryd, mae Huw yn addysgu 73 o weithwyr mewn saith dosbarth ar bum lefel. Mae’n cynnal rhaglen dysgu anffurfiol i gefnogi’r dysgu ffurfiol, gan gynnwys Clwb Cinio wythnosol sy’n cynnig gweithgareddau sgwrsio yn seiliedig ar ddysgu’r wythnos ar bob lefel. Yn ychwanegol, mae'n trefnu cwisiau, cystadlaethau, gweithdai, gigiau cerddorol a siaradwyr gwadd. Mae dysgwyr Huw wedi clodfori’r modd y trosodd y dysgu i wersi rhithiol dros nos yn sgil pandemig Covid-19 gan barhau i ysgogi’r dysgwyr. Yn ôl y llu o enwebiadau gan ddysgwyr, mae’n diwtor brwdfrydig, amyneddgar, ymroddgar, sylwgar, cyfeillgar a chefnogol iawn. Mae hefyd yn sicrhau bo’r dysgu yn hwyl, ac yn llwyddo i sicrhau bod pob gwers yn ddiddorol.

3ydd: Heledd Smith, Tiwtor Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Coleg Penybont)

Mae Heledd yn diwtor ar gynllun Addysg Bellach Cymraeg Gwaith ac yn gweithio yng Ngholeg Penybont. Mae Heledd wedi bod yn diwtor ar nifer o aelodau staff Coleg Penybont, gan sicrhau bod pob un yn gwneud cynnydd, gyda chanran uchel o’r dysgwyr yn nodi eu bod yn defnyddio mwy o’r Gymraeg ers mynychu ei gwersi. Yn ôl yr enwebwyr, mae angerdd Heledd yn sicrhau bod y Gymraeg yn lledaenu ar draws y Coleg, ac mae ei gwersi yn hwyl, diddorol a chreadigol.

Gwobrau Cenedlaethol Cymraeg Gwaith 2021