Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sesiynau Codi Hyder

Gwybodaeth am Sesiynau Codi Hyder
Nod

Pwrpas y sesiynau hyn ydy newid arferiad ieithyddol a chodi hyder siaradwyr amharod neu ddihyder, fel eu bod yn defnyddio’r Gymraeg pan fyddent fel arfer yn defnyddio’r Saesneg.Y prif gymhelliad dros ddod i sesiynau magu hyder ymysg siaradwyr amharod/dihyder yw er mwyn defnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.

Mae rhoi ystyriaeth i'r darlun cyflawn yn allweddol wrth gynllunio sesiynau, a bydd holiadur trylwyr yn cael ei gyflwyno i bob mynychwr er mwyn adnabod lefel eu gallu / hyder i ddefnyddio’r Gymraeg, ynghyd a’u sgiliau Cymraeg, fel bod grŵp o unigolion tebyg i’w gilydd yn cael ei ffurfio.

Cynulleidfa

Y brif gynulleidfa yma yw unigolyn sydd â sgiliau siarad Cymraeg e.e. wedi eu magu yn y Gymraeg neu wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, ond eu bod un ai wedi rhoi’r gorau i’r arfer o ddefnyddio’u Cymraeg (e.e. wedi newid arferiad i siarad Saesneg gydag aelodau’r teulu a ffrindiau), neu heb gael y cyfle i wneud hynny (e.e. yn byw mewn ardal Saesneg ei natur).

Oherwydd y newid arferion neu ddiffyg cyfleoedd, nid oes ganddynt yr hyder i gymryd y cam yna i ddefnyddio’u Cymraeg rhag gwneud camgymeriadau neu gael eu beirniadu.

 

Cysylltwch gyda’r tîm Cymraeg Gwaith i ddeall mwy am y sesiynau hyn i’ch sefydliad.