Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyflwyniad: Cymraeg yn y Cartref

Mae'r adnodd 'Cymraeg yn y Cartref: Cyflwyniad' yn arbennig ar gyfer rhieni a theuluoedd i'ch cefnogi wrth ddewis addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ar gyfer eich plant. Mae'n cynnwys tair rhan:

1) Clipiau Fideo yn adrodd profiad rhieni di-Gymraeg o ddewis addysg Gymraeg i'w plant; a chlipiau fideo o benaethiaid yn nodi'r gefnogaeth sydd ar gael i rieni a theuluoedd di-Gymraeg.

2) Adran sy'n cyflwyno nifer o elfennau diwylliannol Cymreig, fel bo teuluoedd yn gwybod amdanynt ac yn gwybod lle i gael mwy o wybodaeth. Mae'r adran yma'n cynnwys elfennau fel yr Eisteddfod, Dydd Gŵyl Dewi, a gwybodaeth am gylchgronau a llyfrau Cymraeg i blant, ymysg sawl peth arall defnyddiol.

3) Adran sy'n cyflwyno geirfa ac ymadroddion syml a defnyddiol sy'n ymwneud â byd ysgol, fel bo modd i deuluoedd ddysgu a deall rhai termau defnyddiol Cymraeg.

Cliciwch isod i fynd amdani!

Cymraeg yn y Cartref