Dysgu ar lefel Mynediad?
I weld neges ar lefel Mynediad, dewiswch y botwm nesaf:
Dych chi eisiau ymarfer eich sgiliau ysgrifennu a darllen? Mae’r Clwb E-bostio i ddysgwyr lefel Mynediad a Sylfaen.
Bydd cyfle i e-bostio pobl ar yr un lefel. Byddwch chi mewn grŵp o tua wyth o bobl.
Dysgu ar lefel Mynediad?
I weld neges ar lefel Mynediad, dewiswch y botwm nesaf:
Dysgu ar lefel Sylfaen?
I weld neges ar lefel Sylfaen, dewiswch y botwm nesaf:
Rhaid i chi fod mewn dosbarth gyda Dysgu Cymraeg i fod yn rhan o’r Clwb E-bostio.
Trwy gofrestru ar y cynllun, dych chi’n cytuno i rannu’ch cyfeiriad e-bost gyda phobl eraill ar yr un lefel â chi.
Dych chi ddim yn cael ysgrifennu unrhyw beth anweddus neu anaddas, a ddylech chi ddim trafod eich tiwtoriaid Dysgu Cymraeg na dysgwyr eraill ar eich cwrs. Rhowch wybod ar unwaith i eirian.conlon@dysgucymraeg.cymru os bydd rhywun yn eich grŵp yn ysgrifennu unrhyw beth anaddas.
Dylech chi rannu’ch newyddion personol chi, e.e. y teulu, gwaith, diddordebau, gwyliau, beth dych chi wedi bod yn ei wneud, beth fyddwch chi’n ei wneud, a beth sy’n digwydd yn eich ardal.
Ysgrifennwch rhwng 50 a 150 o eiriau - negeseuon byr a syml.
Byddwch chi’n cael eich rhoi gyda grŵp gwahanol o bobl bob tri neu bedwar mis.
Rhaid i chi ysgrifennu yn Gymraeg yn unig.
Eisiau help gyda'r Clwb E-bostio? Dych chi'n gallu cysylltu â ni ar y ffôn, e-bost, neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dilynwch y ddolen nesaf am fwy o wybodaeth.