Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Cymraeg Cywrain

Gloywi (Proficiency)
Hunan astudio
14: Hunan astudio
Cyfeirnod y Cwrs: gdcg-47271
Hyd: 10 Wythnos
Cychwyn: 16/09/2024
Gorffen: 16/09/2025
Tafodiaith: D/B
Ffrwd dysgu: Gweithlu Addysg
Darparwr: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
£0.00
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 16/09/2025

Ynglŷn â'r cwrs

Mae Cymraeg Cywrain yn gwrs hunan-astudio ar-lein newydd ar lefel Gloywi. Caiff defnyddwyr eu tywys drwy gyfres o unedau sy’n rhoi sylw i agweddau penodol o Gymraeg Proffesiynol.

Mae wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer y Gweithlu Addysg, ac yn cynnwys elfennau gramadegol oddi fewn i gyd-destun ffurfiau megis cofnodion, adroddiadau, a llythyrau, gydag enghreifftiau i sgaffaldio eich gwaith. Mae gweithgareddau hwyliog hefyd yn rhoi cyfle i chi ymarfer rheolau gramadeg sy’n cynnwys treigladau, to bach, a rheolau sillafu, gan roi sylw penodol i wallau cyffredin.

Mae’r cwrs yn gyfle gwych i barhau eich datblygiad proffesiynol ym maes sgiliau Cymraeg, tra hefyd yn adnodd defnyddiol i gefnogi tasgau ysgrifennu dydd i ddydd y ymarferwyr addysg.

Diolch i natur hyblyg y cwrs mae modd dewis pa unedau i’w dilyn, ac ym mha drefn. Gellir hefyd mynd yn ôl at yr unedau ar unrhyw adeg er mwyn gwirio elfennau neu i adolygu.

Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg sy’n gweithio ym myd addysg ac yn awyddus i ymarfer a datblygu eich sgiliau Cymraeg Proffesiynol, Cymraeg Cywrain yw’r cwrs ar eich cyfer chi.