Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gŵyl Ddarllen Amdani

Croeso i dudalen Gŵyl Ddarllen Amdani

Beth ydy Gŵyl Ddarllen Amdani?

Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani.'

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 3 - 7 Mawrth 2025. 

Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael isod.

Cystadleuaeth ysgrifennu

Dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad?

Eisiau trio cystadleuaeth er mwyn ennill cyfres lyfrau Amdani (lefel Sylfaen)?

Dych chi angen ysgrifennu adolygiad o'ch hoff lyfr Amdani, lefel Mynediad (100 o eiriau).

Llenwch y ffurflen isod cyn 10/02/25.

Pob lwc!

Cystadleuaeth ysgrifennu - Cofrestru





Clwb darllen

Caru llyfrau? Dewch i’n clwb darllen ni!

Bydd cyfle i drafod llyfrau Amdani a holi rhai o’r awduron.

Pryd: 5/03/25 am 7yh.

Pa lefel: Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch, Gloywi.

Bydd angen i chi ddarllen y llyfr ymlaen llaw. 

Er mwyn cofrestru, llenwch y ffurflen isod cyn 3/03/25.

Clwb darllen - Cofrestru








Sesiwn ar y gynghanedd

Eisiau dysgu sut i gynganeddu?

Dewch i ddysgu sut i gynganeddu gyda Emyr Davies a Jo Heyde.

Pryd: 6/03/25 am 7yh.

Pa lefel: Uwch a Gloywi.

Er mwyn cofrestru, llenwch y ffurflen isod cyn 4/03/25.

Sesiwn ar y gynghanedd - Cofrestru