Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gŵyl Ddarllen Amdani 2024

Croeso i dudalen Gŵyl Ddarllen Amdani 2024

Beth ydy Gŵyl Ddarllen Amdani?

Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani.'

Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar-lein rhwng 4 - 8 Mawrth 2024. 

Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael isod.

Cystadleuaeth ysgrifennu Gŵyl Amdani

Diolch i bawb wnaeth drio cystadleuaeth ysgrifennu Gŵyl Amdani.  'Dych chi'n gallu darllen gwaith y dysgwyr wnaeth ennill y gystadleuaeth isod:

John Jarvis

Llongyfarchiadau mawr i John Jarvis.

John ddaeth yn gyntaf yng nghystadleuaeth ysgrifennu adolygiad Gŵyl Amdani.

Mi wnaeth John adolygu 'Gorau Glas' gan Lois Arnold.

Fiona Young

Llongyfarchiadau mawr i Fiona Young.

Fiona ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth ysgrifennu adolygiad Gŵyl Amdani.

Mi wnaeth Fiona adolygu 'Chwedlau Cymru: Ceffylau' gan Fiona Collins.

Jon Mier

Llongyfarchiadau mawr i Jon Mier.

Jon ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth ysgrifennu adolygiad Gŵyl Amdani.

Mi wnaeth John adolygu 'Gangsters yn y Glaw' gan Pegi Talfryn.