Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gŵyl Ddarllen Amdani

Croeso i dudalen Gŵyl Ddarllen Amdani

Beth ydy Gŵyl Ddarllen Amdani?

Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani.'

Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar-lein rhwng 3 - 7 Mawrth 2025. 

Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael isod.

Cystadleuaeth ysgrifennu Gŵyl Amdani

Diolch i bawb wnaeth drio cystadleuaeth ysgrifennu Gŵyl Amdani.  'Dych chi'n gallu darllen gwaith y dysgwyr wnaeth ennill y gystadleuaeth isod:

Dzmitry Kushnarou

Llongyfarchiadau mawr i Dzmitry Kushnarou.

Dzmitry ddaeth yn gyntaf yng nghystadleuaeth ysgrifennu adolygiad Gŵyl Amdani.

Mi wnaeth Dzmitry adolygu 'Chwedlau Cymru: Y Môr' gan Fiona Collins.

Dych chi'n gallu darllen yr adolygiad drwy ddilyn y ddolen nesaf: Adolygiad o 'Chwedlau Cymru: Y Môr' gan Dzmitry Kushnarou

Sam Watson

Llongyfarchiadau mawr i Sam Watson.

Sam ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth ysgrifennu adolygiad Gŵyl Amdani.

Mi wnaeth Sam adolygu 'Blacmêl' gan Pegi Talfryn.

Dych chi'n gallu darllen yr adolygiad drwy ddilyn y ddolen nesaf: Adolygiad o 'Blacmêl' gan Sam Watson

Janet Young

Llongyfarchiadau mawr i Janet Young.

Janet ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth ysgrifennu adolygiad Gŵyl Amdani.

Mi wnaeth Janet adolygu 'Am loteri!' addasiad gan Meinir Wyn Edwards.

Dych chi'n gallu darllen yr adolygiad drwy ddilyn y ddolen nesaf: Adolygiad o 'Am loteri!' gan Janet Young

 

Dod i adnabod yr awdur

'Dyn ni wedi cael sgwrs gyda awduron gwahanol i ddod i'w hadnabod yn well. Cliciwch ar y teiliau isod i ddarllen mwy. 

Clwb darllen / Sesiwn ar gynghanedd

Diolch yn fawr i bawb wnaeth ddod i'r clwb darllen a'r sesiwn ar gynghanedd. Gobeithio wnaethoch chi fwynhau. 

Oes adborth gyda chi am y sesiwn? Mae croeso i chi e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru