Beth am fynd i Sadwrn Siarad cyn bo hir? Bydd croeso mawr i chi!
Croeso
Eisiau ymarfer eich Cymraeg a chyfarfod dysgwyr eraill? Beth am fynd i Sadwrn Siarad?
Mae Sadwrn Siarad yn rhoi cyfle gwych i chi ddefnyddio eich Cymraeg.
-
Pwy sy’n gallu mynd?Dych chi’n gallu mynd i Sadwrn Siarad os dych chi’n dysgu Cymraeg ar unrhyw lefel, neu os dych chi’n dysgu ar eich pen eich hun.
-
Ble maen nhw?Mae Sadyrnau Siarad yn cael eu cynnal ar ddyddiau Sadwrn neu Sul. Mae rhai yn cael eu cynnal yn rhithiol (virtually), ac eraill wyneb yn wyneb.
-
Beth sy’n digwydd mewn Sadwrn Siarad?Dych chi’n cael cyfle i adolygu eich gwersi Cymraeg, ac ymarfer eich sgiliau iaith. Dych chi’n cael cyfle i siarad gyda dysgwyr eraill hefyd.
Beth nesaf?
Beth am fynd i Sadwrn Siarad cyn bo hir?
I gael mwy o wybodaeth am Sadyrnau Siarad, dewiswch y ddolen isod i weld rhestr ohonyn nhw.
Gweithgareddau eraill
Mae gweithgareddau eraill ar gael hefyd, gan gynnwys clybiau darllen, a sesiynau sgwrs a chlonc.
I gael mwy o wybodaeth am weithgareddau eraill, dewiswch y ddolen isod i weld rhestr o syniadau.