Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cynllun Siarad

Beth am ymuno?
Croeso

Dych chi'n dysgu Cymraeg? Beth am ymuno â'r cynllun Siarad er mwyn ymarfer eich Cymraeg...

Dych chi'n siarad Cymraeg? Beth am ymuno â'r cynllun Siarad er mwyn helpu dysgwyr... 

Darllenwch y pecyn canlynol er mwyn dysgu am y cynllun, neu mae mwy o wybodaeth ar gael isod.

Cofrestru a chanllawiau

Eisiau cymryd rhan yn y cynllun?

  • Darllenwch y canllawiau isod.
  • Dewiswch y botwm cywir isod er mwyn cofrestru fel dysgwr neu siaradwr.
  • Os dych chi angen cysylltu gyda'ch darparwr lleol, dych chi'n gallu gwneud hynny isod.

Profiad y dysgwr / siaradwr

Colin Williams Dysgwr
Mae'r cynllun wedi gwneud byd o wahaniaeth i fy hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Wrth siarad gyda fy mhartner Siarad, dw i’n gallu ymlacio a siarad am bopeth heb orfod poeni os ydy e yn fy neall.
Lyn Llewellyn Siaradwr
Erbyn hyn, mae fy mhartner Siarad a finnau yn ffrindiau da. ’Dyn ni’n cyfarfod bob wythnos mewn bore coffi. Mae’n dda medru ymarfer siarad Cymraeg, a chael hwyl gyda’n gilydd.
Dick Dysgwr
Y peth gorau yw cael cyfle i glywed ac ymateb i'r Gymraeg fel mae'n cael ei siarad ar y stryd. Dw i wir yn mwynhau bod yn rhan o’r cynllun Siarad. Bachwch ar y cyfle i ymuno os dych chi’n gallu!
Siôn Siaradwr
Mae bod yn bartner Siarad yn hwyl, ysgafn ac mae posib gwneud unrhyw beth dych chi’n dymuno. Os oes gennych chi’r amser, mae’n cael ei werthfawrogi yn fawr iawn gan y dysgwr.