Gwybodaeth i ddysgwyr ifanc
Croeso!
Ym mis Medi 2022, bydd cyrsiau Cymraeg ar gael am ddim i bobl ifanc 18-25 oed.
Mae cyrsiau ar gael ar wahanol lefelau, felly os dych chi’n gallu siarad tipyn bach yn barod, bydd ’na gwrs i chi.
Llenwch y ffurflen yma, a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y cyrsiau newydd yn dechrau.
Yn y cyfamser, gallwch ddilyn ein cyrsiau blasu ar-lein rhad ac am ddim, neu gallwch ddefnyddio’r adnoddau digidol yma.
Mae sawl ffordd arall i fwynhau’r Gymraeg – beth am wrando ar fiwsig Cymraeg ar Spotify neu Radio Cymru neu wylio rhai o raglenni Cymraeg S4C.

