Mae'n haws nag erioed i gefnogwyr pêl-droed Cymru ddysgu a mwynhau'r Gymraeg, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Gallwch ddysgu ar-lein fel naill ai cefnogwr, chwaraewyr, rheolwr neu weithiwr. Cliciwch ar y botymau isod am fwy o fanylion.
Ein tîm, ein hiaith - ewch amdani!
Mae’r gymdeithas Bêl-droed yn hynod o falch o hyrwyddo’r cyrsiau yma.
"Mae’n ymrwymiad ni i Gymru ac i’r iaith Gymraeg yn ganolbwynt i’n hethos ni fel Cymdeithas. Rydym wedi apwyntio Tiwtor Cymraeg i’r Gymdeithas ac mae’r staff wrthi yn Dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, ac fel rhan o hynny rydw i’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd. Mae ein perthynas ni gyda ‘Dysgu Cymraeg’ yn un holl bwysig ac yn ganolbwynt i’n strategaeth hir dymor. Mae Cymru yn wlad ddwyieithog ac mae’r fenter yma yn ddatganiad cryf o’n bwriad ni i wasanaethi’n gyflawn trwy’r iaith Gymraeg ac yn eiriau ein hanthem genedlaethol fel ysbrydoliad ‘a byddet i’r heniaith barhau!’ "
- Noel Mooney, Prif Weithredwr Y Gymdeithas Bel-Droed Cymru