Mae'n haws nag erioed i gefnogwyr pêl-droed Cymru ddysgu a mwynhau'r Gymraeg, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae cyfleoedd di-ri i'r cefnogwyr ddysgu a magu hyder i ddefnyddio'r iaith, gyda dewis eang o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau byr ar-lein.
Bydd y Ganolfan yn cefnogi CBDC gyda'i defnydd o'r Gymraeg yn ei gweithgareddau, a bydd cyfleoedd i hyrwyddo'r gêm i'r gymuned Dysgu Cymraeg fyrlymus a chyfeillgar.
Gyda'n gilydd, edrychwn ymlaen at wireddu gweledigaeth CBDC o genedl bêl-droed flaenllaw!