Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gofal a Chysur yn Gymraeg

Adnoddau Dysgu ar gyfer y gweithlu Gofal Lliniarol

Croeso i Gofal a Chysur yn Gymraeg

Mae’r pecyn yma wedi ei greu yn arbennig ar gyfer y gweithlu Gofal Lliniarol yng Nghymru. Mae wedi ei ddatblygu gyda chymorth gan arbenigwyr yn y maes er mwyn sicrhau bod yr iaith a gyflwynir yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

Mae’n addas os ydych chi’n cychwyn ar eich taith dysgu Cymraeg, neu os ydych chi eisiau magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddoch chi yn y gwaith.

Croeso gan Mari Grug

Diolch i’r gyflwynwraig Mari Grug am ei chefnogaeth wrth greu’r pecyn dysgu yma.

Er cof am Aled Roberts:

Mae’r pecyn wedi ei greu gyda nawdd drwy elusen Macmillan er cof am y gwleidydd achyn-gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts. Darllenwch fwy trwy ddilyn y ddolen nesaf: Cronfa goffa Aled Roberts | Dysgu Cymraeg

Beth sydd yn y pecyn dysgu?

  • Ymwybyddiaeth: Pam mae’r Gymraeg yn bwysig mewn gofal lliniarol? Astudiaethau achos o Fwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.
  • Dysgu: Cwrs Blasu Gofal a Chysur yn Gymraeg
    • Uned 1: Croeso – geiriau a brawddegau syml i’w defnyddio wrth groesawu a chyfarch
    • Uned 2: Y corff, y meddwl a'r emosiynau – geirfa syml i’w defnyddio wrth drafod symptomau ac asesu cleifion
    • Uned 3: Beth sy'n bwysig i chi? – geiriau, brawddegau a chwestiynau i gyfleu empathi, dealltwriaeth a chysur yn Gymraeg
    • Uned 4: Dysgu dewisol ychwanegol – yr wyddor ac ynganu, amser, dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn
    • Uned 5: Holl eirfa'r adrannau 1-3
    • PDF o’r holl eirfa yn Uned 1-3

Beth yw gofal lliniarol?

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am Ofal Lliniarol gan Eleri yn Ysbyty Treforys.

Cwrs Blasu Gofal a Chysur drwy'r Gymraeg

Cwrs Blasu ar-lein i weithwyr Gofal Lliniarol (10 awr)

Mae dau ddewis ar gael:

Dydd Mercher 6-7pm (24/9/25 - 3/12/25)

Dydd Gwener 12-1pm (26/9/25 - 5/12/25)

Dewiswch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.

Adnoddau dysgu

Ymwybyddiaeth: Pam mae’r Gymraeg yn Bwysig Mewn Gofal Lliniarol? 
Gwyliwch yr astudiaethau achos yma o Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Treforys.
Diolch i staff Ty Geraint, Bronglais a Thy Olwen, Treforys am eu holl gymorth wrth ddatblygu’r pecyn hwn.

Dechrau Siarad Cymraeg!

Cwrs Blasu Gofal a Chysur:
Dyma gyfle i chi ddysgu ac ymarfer geiriau a brawddegau syml fydd yn eich cynorthwyo yn eich gwaith o ofalu am gleifion a’u teuluoedd. 

Lawrlwythwch

Mae’r PDF geirfa yma yn cyd-fynd â’r cwrs uchod. Dyma flas o’r eirfa fyddwch chi’n ei ddysgu.