Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Achau Cymreig yn ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg

Achau Cymreig yn ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg

Mae gan Kylie Mathias o Awstralia a Catherine Halverson o’r America un peth yn gyffredin – cawsant eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg oherwydd eu cysylltiadau teuluol â Chymru.

Mae Catherine Halverson yn hanu o Michigan ac wedi cael gwybod erioed fod ganddi wreiddiau Cymreig. Ond daeth yn ymwybodol o’r Gymraeg am y tro cyntaf pan aeth hi a’i mam ar wyliau yn ymweld â llefydd oedd yn gysylltiedig â’r Brenin Arthur.

Yn ystod y daith, aethant i Gernyw a Chymru, a thra yng Nghymru, gwelodd Catherine lyfrau dwyieithog wnaeth ennyn ei diddordeb; roedd un o'r tywyswyr hefyd yn siaradwr Cymraeg.

Meddai Catherine, “Ar ôl dychwelyd i’r Unol Daleithiau, nes i barhau i ymddiddori yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ac yna nes i ddod ar draws Say Something in Welsh (SSiW). Dw i wedi defnyddio’r ap yn aml ers hynny, yn ogystal â Duolingo, sydd hefyd yn llawer o hwyl.”

Yna, yn gynharach eleni, dechreuodd Catherine gwrs ar-lein gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, trwy ei darparwr Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei arwain gan Goleg Cambria a Popeth Cymraeg.

Ychwanegodd, “Ro’n i’n meddwl y byddai’n dda cael cwrs strwythuredig oedd yn dod â’r pethau sylfaenol oeddwn i wedi’u dysgu, yn eithaf ad-hoc, at ei gilydd. Dw i’n ymuno â'r dosbarth ar ddydd Mawrth a dydd Iau am 4 y bore yma yn yr Unol Daleithiau a dw i’n ei fwynhau'n fawr.

“Dw i’n gobeithio teithio i Gymru yn y blynyddoedd nesaf i dreulio amser yn crwydro a dysgu mwy. Yn y cyfamser, dw i’n hapus bod cymaint o adnoddau gwych ar gael i ddysgu Cymraeg.” 

Roedd Kylie Mathias o Perth, Awstralia bob amser yn gwybod bod nain a thaid ei mam yn dod o Gymru, ond roedd eisiau gwybod mwy am ei threftadaeth.

Yna, yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd olrhain archau y merched yn ei theulu. Meddai, “Roeddwn eisiau gwybod mwy am fy nhreftadaeth Gymreig a darganfyddais fod merched y teulu wedi dod o fewn tua 20 milltir i Lanfyllin ers y 1700au.

“Cefais wybod hefyd fod un perthynas, Ellis Roberts (Ellis Wyn o Wyrfai), wedi ennill Coron yr Eisteddfod yn 1880. Fe wnaeth hyn ailgynnau fy nghariad at farddoni ac adrodd straeon.

“A chan fy mod i wrth fy modd yn dysgu, roedd dysgu iaith fy nghyndeidiau o ddiddordeb mawr i mi. Dw i’n credu bod iaith yn gallu bod yn ffenestr i ddiwylliant - mae'r patrymau a'r eirfa yn gallu datgelu pethau mor wych!”

Dechreuodd Kylie ddysgu Cymraeg ddwy flynedd yn ôl gydag ap Duolingo, ac yna ymunodd â dosbarth ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain ym mis Ionawr 2023.

Ychwanegodd, “Dw i wedi bod yn dysgu ar-lein gyda Ceri yng Ngholeg Cambria ers mis Ionawr. Dw i hefyd yn cael cylchgrawn dysgwyr, Lingo Newydd, trwy’r post, yn gwrando ar bodlediadau amrywiol i ddysgwyr Cymraeg, ac yn trio gwrando ar Radio Cymru pan alla i.

“Bydd fy mhartner a minnau’n cael penblwyddi pwysig yn 2027 a byddwn wrth fy modd yn ymweld â Chymru gyda’n dwy ferch bryd hynny. Hoffem amseru ein hymweliad fel y gallwn fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst!”

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae’n wych clywed am bobl fel Catherine a Kylie, sydd â chymaint o ddiddordeb yng Nghymru, ac mewn dysgu Cymraeg.

“Mae’r mwyafrif helaeth o’n dysgwyr yn byw yng Nghymru, ond mae’r ffaith fod cyrsiau ar gael mewn dosbarthiadau rhithiol yn golygu bod dysgwyr eraill o bedwar ban byd yn gallu ymuno hefyd.  Mae llawer eisiau dysgu oherwydd cysylltiad teuluol â Chymru – mae eraill yn cael eu denu gan gerddoriaeth Gymraeg a llyfrau am Gymru.

“Bydd cyrsiau newydd ar gyfer dechreuwyr yn dechrau ym mis Medi, gan gynnwys cyrsiau wyneb yn wyneb yn ogystal â rhai mewn dosbarthiadau rhithiol, a dan ni’n gobeithio croesawu hyd yn oed yn fwy o bobl at y Gymraeg.”

Mae mwy o fanylion am gyrsiau newydd i ddechreuwyr – sydd ar gael am bris arbennig o £45 am y flwyddyn gyfan – ar gael ar y dudalen yma.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dysgucymraeg.cymru.