Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Adnabod yr awdur, Meleri Wyn James

Adnabod yr awdur, Meleri Wyn James

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, mi wnaeth Meleri Wyn James ennill y Fedal Ryddiaith.  Enw ei nofel ydy ‘Hallt’, sy’n sôn am fam a'i merch 16 oed, sy ag anghenion arbennig.

Mae Meleri Wyn James yn awdur ac yn olygydd i wasg Y Lolfa.  Mae hi wedi cyhoeddi llyfrau ar gyfer plant ac oedolion.

Ble dych chi’n byw ac o ble dych chi’n dod yn wreiddiol?

Dw i’n byw yn Aberystwyth.  Ces i fy ngeni yn Llandeilo a fy magu ym mhentrefi Beulah ac Aber-porth.

Oeddech chi’n hoffi ysgrifennu yn yr ysgol?

Dw i wrth fy modd yn ysgrifennu ers o’n i’n fach.  Dw i’n cofio creu cymeriadau pan o’n i’n chwech neu saith oed. Dw i’n mwynhau ysgrifennu ers hynny.

Pa lyfrau sy wedi dylanwadu arnoch chi?

Yn Gymraeg, mi wnaeth Si Hei Lwli a Wele’n Gwawrio gan Angharad Tomos greu argraff fawr arna i.  Yn Saesneg, mae nofelau Fingersmith gan Sarah Waters a The Murder of Roger Ackroyd gan Agatha Christie wedi dylanwadu arna i, achos dw i’n hoffi straeon sy’n llawn dirgelwch.

Beth sy'n eich ysbrydoli i ysgrifennu?

Dw i’n berson aflonydd, ac mae ysgrifennu yn tawelu’r meddwl.  Dw i’n cael syniad, ac os ydy’r syniad yn ddigon cryf, dw i’n dechrau creu’r stori.

Ble dych chi’n ysgrifennu?

Mae’n amrywio.  Mi wnes i ysgrifennu llawer o Hallt mewn caffi yn Aberystwyth.

Faint o’r gloch dych chi’n ysgrifennu?

Yn ystod y dydd.  Dw i ddim yn hoffi ysgrifennu yn ystod oriau mân y bore.  Ond mae syniadau yn gallu dod unrhyw bryd – tra dw i’n cysgu efallai.

Beth dych chi’n hoffi ysgrifennu fwyaf, llyfrau i blant neu oedolion?

Dw i’n hoffi gwneud y ddau.  Dw i’n cael llawer o hwyl yn ysgrifennu i blant.  Ond ysgrifennu i oedolion dw i’n hoffi gwneud fwyaf.

Unrhyw gyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu?

Dechrau ydy’r peth anoddaf ond ewch amdani – does dim rhaid i chi ddangos pob gair i unrhyw un.  Ond mae cyfleoedd ar gael i awduron newydd – gwnewch y mwyaf ohonyn nhw.

Oes unrhyw lyfrau ar y gweill?

Oes.  Dw i’n gorffen Megs, nofel ddirgelwch i blant 9 i 11 oed ar hyn o bryd.  Dw i hefyd wedi ysgrifennu nofel i oedolion o’r enw Dim Ond Un fydd yn cael ei chyhoeddi cyn y Nadolig.

Geirfa

Medal Ryddiaith - Prose Medal

anghenion arbennig – special needs

golygydd – editor

cyhoeddi – publish

magu – grew up

dylanwadu – to influence

argraff – impression

dirgelwch – mystery

ysbrydoli – to inspire

aflonydd - restless