Adnoddau dysgu newydd
Adnoddau newydd
Mae adnoddau digidol newydd ar gael i ddysgwyr ddefnyddio yn rhad ac am ddim.
Mae’r adnoddau – sy’n cyd-fynd â chyrsiau peilot Mynediad (dechreuwyr) ac Uwch 1 (dysgwyr profiadol) y Ganolfan Genedlaethol yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.
Mae pob math o weithgareddau ar gael i gefnogi’r dysgu, o fideos i gwis, yn ogystal ag ymarferion sy’n cydfynd â’r gwaith a wneir yn y dosbarth.
Mae’r adnoddau ar gael i bawb. Gall dysgwyr ym mhobman eu defnyddio ar adegau sy’n gyfleus iddyn nhw, ar gyfrifiadur neu ffonau symudol a thabledi.
09 Hydref 17