Adolygiad Cyflym o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Ymateb y Ganolfan i Adolygiad Cyflym y Llywodraeth
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae pawb yn y Ganolfan yn croesawu argymhellion Adolygiad Cyflym y Llywodraeth, sy’n dilyn adroddiad cadarnhaol Estyn, a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
“Ers sefydlu’r Ganolfan yn 2016, ’dyn ni wedi cymryd camau breision i gysoni a chryfhau’r ddarpariaeth i’n dysgwyr. Mae arloesi digidol wedi bod yn flaenoriaeth o’r cychwyn cyntaf, yn ogystal â chreu cyfleoedd cyffrous ac amrywiol i’n dysgwyr fwynhau defnyddio’u Cymraeg. Mae’r sector cyfan wedi ymateb yn bositif i heriau’r pandemig, gan gynnal ac ymestyn ein gwasanaeth i’n dysgwyr.
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r sector deinamig hwn, yn ddysgwyr a staff. ’Dyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Llywodraeth i roi argymhellion yr adolygiad ar waith.”