Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Adolygiad cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Adolygiad Cyflym o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Ymateb y Ganolfan i Adolygiad Cyflym y Llywodraeth

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae pawb yn y Ganolfan yn croesawu argymhellion Adolygiad Cyflym y Llywodraeth, sy’n dilyn adroddiad cadarnhaol Estyn, a gynhaliwyd yn gynharach eleni. 

“Ers sefydlu’r Ganolfan yn 2016, ’dyn ni wedi cymryd camau breision i gysoni a chryfhau’r ddarpariaeth i’n dysgwyr.  Mae arloesi digidol wedi bod yn flaenoriaeth o’r cychwyn cyntaf, yn ogystal â chreu cyfleoedd cyffrous ac amrywiol i’n dysgwyr fwynhau defnyddio’u Cymraeg.  Mae’r sector cyfan wedi ymateb yn bositif i heriau’r pandemig, gan gynnal ac ymestyn ein gwasanaeth i’n dysgwyr.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r sector deinamig hwn, yn ddysgwyr a staff.  ’Dyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Llywodraeth i roi argymhellion yr adolygiad ar waith.”