Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Mwy o ddysgwyr

Mwy o ddysgwyr

Cyfleoedd newydd yn denu mwy o ddysgwyr i’r Gymraeg

Mae mwy o bobl wedi dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dros y 12 mis diwethaf, diolch i gyfleoedd newydd a gyflwynwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r Ganolfan, sy’n cydweithio ag 11 darparwr ledled Cymru, yn adrodd ar gynnydd y flwyddyn academaidd 2017-2018 yn yr Adroddiad Blynyddol.

Gwnaeth dros 5,000 o bobl gymryd rhan yn rhaglen arloesol newydd y Ganolfan, ‘Cymraeg Gwaith’, a gyflwynwyd i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle.  Mae’r rhaglen yn cynnwys cyrsiau dwys, cyrsiau preswyl a chyrsiau ar-lein.

Gwnaeth oddeutu 600 o bobl gymryd rhan yn y ‘Clwb Cwtsh’, cynllun newydd sbon ar y cyd â Mudiad Meithrin i gyflwyno’r Gymraeg i deuluoedd gyda phlant ifanc.

Yn ogystal â hyn, fe weithredodd y Ganolfan gynllun Grantiau Arloesi i ymgysylltu â chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd.  Cyflwynwyd cyrsiau amrywiol fel rhan o’r cynllun, gan gynnwys cwrs ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd a rhaglen ddwys integredig i deuluoedd yng Ngheredigion.

Mae’r niferoedd hyn yn ychwanegol i brif darged y sector Dysgu Cymraeg ar gyfer 2017-2018, sef darparu cyfleoedd dysgu prif ffrwd (cyrsiau sy’n isafswm o 50 awr y flwyddyn) a dysgu atodol (e.e. cyrsiau penwythnos a chyrsiau adolygu) i 17,660 o ddysgwyr.  Bydd y Ganolfan yn adrodd ar y ffigwr yma yn hwyrach yn y flwyddyn, ond disgwylir y bydd y targed yn cael ei gyflawni.

Cadarnhaodd y Ganolfan ei bod wedi cyrraedd targedau’r flwyddyn academaidd 2016-2017 hefyd, sef darparu cyfleoedd dysgu prif ffrwd a dysgu atodol i 16,845 o ddysgwyr. 

Bydd cynlluniau ‘Cymraeg Gwaith’ a’r ‘Clwb Cwtsh’ yn parhau yn ystod 2018-2019.  Bydd cyrsiau newydd ar-lein, wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, gan gynnwys Iechyd, Gofal a Lletygarwch/Twristiaeth, yn cael eu cyflwyno fel rhan o ‘Cymraeg Gwaith’. 

Cyflwynwyd Safle Rhyngweithiol newydd gan y Ganolfan yn ystod 2017-2018, sef dysgucymraeg.cymru neu learnwelsh.cymru .  Am y tro cyntaf erioed, dyma un safle cenedlaethol ar gyfer y sector Dysgu Cymraeg.  Mae modd chwilio 2,000 o gyrsiau, cofrestru a thalu ar-lein am gwrs; mae’r safle hefyd yn cynnwys adnoddau digidol i gefnogi’r dysgu.

Lluniwyd dau gwrs Dysgu Cymraeg newydd yn ystod y flwyddyn, sef cwrs Mynediad ar gyfer dechreuwyr a chwrs Uwch ar gyfer dysgwyr profiadol.  Bydd y cyrsiau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru o fis Medi 2018.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae wedi bod yn flwyddyn brysur a chyffrous i’r Ganolfan wrth i’n cynlluniau gael eu gwireddu’n brosiectau ymarferol sy’n cynnig cyfleoedd newydd a hyblyg i bobl o bob cefndir ac ym mhob rhan o’r wlad i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

“Drwy ei holl waith, amcan y Ganolfan yw cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  ’Dyn ni eisiau gwneud hynny drwy sicrhau bod modd i bawb gael y cyfle a’r gefnogaeth i ddysgu Cymraeg.

“Dw i’n ddiolchgar i’n darparwyr a’n partneriaid am eu cydweithio creadigol ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio’n adeiladol er mwyn rhoi ein cynlluniau ar waith a chynnig profiadau arbennig i’n dysgwyr.”

Diwedd