Penodi Aelodau o'r Bwrdd Ymgynghorol
Hyd at dri chyfarfod y flwyddyn
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion i fod yn aelodau annibynnol o Fwrdd Ymgynghorol y Ganolfan. Mae’r Bwrdd yn cynorthwyo’r Ganolfan i gyflawni ei hamcanion strategol drwy gynghori ar bolisi a thrafod datblygiadau. Croesawir ceisiadau gan unigolion sy’n awyddus i hyrwyddo dysgu Cymraeg i oedolion.
Telir costau teithio a chynhaliaeth a thâl mynychu cyfarfodydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma. Os hoffech sgwrs anffurfiol am y cyfleoedd hyn, mae croeso i chi gysylltu â Phrif Weithredwr y Ganolfan, efa.gruffudd.jones@dysgucymraeg.cymru
Dyddiad cau: Dydd Gwener 11 Ionawr 2019, 12.00 yp