Sgwrs gydag Ameer
Mae’r cyflwynydd Ameer Rhys Davies-Rana wedi teithio’r wlad yn adolygu bwytai ar gyfer Hansh, platfform ar-lein S4C, ac mae e hefyd yn cyflwyno rhaglen wythnosol ar BBC Radio Cymru. Bydd Ameer yn arwain un o sesiynau coginio byw y Calendr Adfent Dysgu Cymraeg, am 6.00pm ar 18 Rhagfyr. Dyma ychydig o’i hanes.
O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir chi?
Dw i’n dod o Rydaman ac mae fy mam yn Gymraes gefn-gwlad ac mae fy nhad o Bacistan.
Pryd a ble dych chi’n defnyddio eich Cymraeg?
Pob tro dw i’n gweithio ar set ffilmio; trwy e-byst yn ddyddiol; gyda fy mam a brawd yn bersonol.
Beth yw eich hoff beth a’ch cas beth?
Fy ngwaith – a phryfed-cop!
Pa fath o fwydydd dych chi’n hoffi coginio?
Pasta, pasta a mwy o basta!! Oherwydd ei fod yn hawdd ei wneud ac yn flasus.
Beth fyddai eich pryd delfrydol?
Bwydydd Lebanese neu Dwrcaidd fel koftas cig oen, chops cig oen a shish skewers cyw-iâr gyda digon o reis, salad a saws i gyd-fynd â nhw. Dw i’n llwgu wrth feddwl amdano nawr!!!
Oes gyda chi unrhyw draddodiadau Nadolig arbennig yn ymwneud â bwyd?
Ni’n tueddi cael samwn, caws hufen a bagels i frecwast gyda bucks fizz. Ar ôl hwnna, y prif bryd, sef twrci a’r holl drimmins yn y prynhawn. Wedyn ’dyn ni’n bwyta siocled nes ein bod ni’n teimlo’n sâl. Ac yna, brechdanau twrci gyda coleslaw i orffen cyn gwely!
Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg?
Mae’n rhaid i fi fod yn onest, dw i byth yn darllen oherwydd fy mod i’n ffilm ffanatig enfawr. Siŵr o fod y peth diwethaf wnes i ddarllen yn Gymraeg oedd ‘Yr allwedd hud’ neu ‘Sali Mali’, nôl yn yr ysgol!
Beth yw eich hoff air Cymraeg?
Bendigedig
Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Fel unrhyw sgil, y mwyaf dych chi’n ymarfer, y gorau fe ddewch chi! Mae geiriau yn gallu troi’n frawddegau; mae brawddegau yn troi’n sgwrs ac mae sgwrs yn ddigon i fod yn rhugl.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair?
Hoffi bwyta bwyd