Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sgwrs gydag Ameer

Sgwrs gydag Ameer

Mae’r cyflwynydd Ameer Rhys Davies-Rana wedi teithio’r wlad yn adolygu bwytai ar gyfer Hansh, platfform ar-lein S4C, ac mae e hefyd yn cyflwyno rhaglen wythnosol ar BBC Radio Cymru.  Bydd Ameer yn arwain un o sesiynau coginio byw y Calendr Adfent Dysgu Cymraeg, am 6.00pm ar 18 Rhagfyr.  Dyma ychydig o’i hanes.

O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir chi? 

Dw i’n dod o Rydaman ac mae fy mam yn Gymraes gefn-gwlad ac mae fy nhad o Bacistan.

Pryd a ble dych chi’n defnyddio eich Cymraeg?

Pob tro dw i’n gweithio ar set ffilmio; trwy e-byst yn ddyddiol; gyda fy mam a brawd yn bersonol.

Beth yw eich hoff beth a’ch cas beth?

Fy ngwaith – a phryfed-cop!

Pa fath o fwydydd dych chi’n hoffi coginio?

Pasta, pasta a mwy o basta!! Oherwydd ei fod yn hawdd ei wneud ac yn flasus.

Beth fyddai eich pryd delfrydol?

Bwydydd Lebanese neu Dwrcaidd fel koftas cig oen, chops cig oen a shish skewers cyw-iâr gyda digon o reis, salad a saws i gyd-fynd â nhw.  Dw i’n llwgu wrth feddwl amdano nawr!!!

Oes gyda chi unrhyw draddodiadau Nadolig arbennig yn ymwneud â bwyd?

Ni’n tueddi cael samwn, caws hufen a bagels i frecwast gyda bucks fizz.  Ar ôl hwnna, y prif bryd, sef twrci a’r holl drimmins yn y prynhawn.  Wedyn ’dyn ni’n bwyta siocled nes ein bod ni’n teimlo’n sâl.  Ac yna, brechdanau twrci gyda coleslaw i orffen cyn gwely!

Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg?

Mae’n rhaid i fi fod yn onest, dw i byth yn darllen oherwydd fy mod i’n ffilm ffanatig enfawr.  Siŵr o fod y peth diwethaf wnes i ddarllen yn Gymraeg oedd ‘Yr allwedd hud’ neu ‘Sali Mali’, nôl yn yr ysgol!

Beth yw eich hoff air Cymraeg?

Bendigedig

Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Fel unrhyw sgil, y mwyaf dych chi’n ymarfer, y gorau fe ddewch chi!  Mae geiriau yn gallu troi’n frawddegau; mae brawddegau yn troi’n sgwrs ac mae sgwrs yn ddigon i fod yn rhugl.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair?

Hoffi bwyta bwyd