Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Annog dysgwyr i fynd amdani yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2022

Annog dysgwyr i fynd amdani yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2022

Heddiw, (1 Mawrth), mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Ceredigion 2022 yn cael ei lansio mewn bore coffi Gŵyl Dewi rhithiol yng nghwmni enillydd y llynedd, David Thomas, a chriw o ddysgwyr brwd eraill.

Yn ôl David, mae’r gystadleuaeth boblogaidd, sy’n cael ei chynnal gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ffordd wych o barchu’r bobl sy’n dysgu’r iaith ac o ysbrydoli eraill i ddechrau dysgu.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.  Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor enwebu rhywun.  Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 1 Mai.

Bydd y rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ym mis Mehefin, gyda’r rownd derfynol yn digwydd ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Mercher, 3 Awst gyda’r beirniaid: Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru; cyflwynydd Radio Cymru, Geraint Lloyd, a’r prifardd, Cyril Jones. 

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ar lwyfan y pafiliwn nos Fercher, 3 Awst.

Mae David Thomas, sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin ac sy’n rhedeg cwmni Jin Talog gyda’i ŵr, Anthony, wedi cael blwyddyn brysur o genhadu dros y Gymraeg.  Mae David wedi mynychu digwyddiadau fel siaradwr gwadd ac mae wedi cael ei gyfweld sawl tro ar y cyfryngau am ei brofiadau o ddysgu’r iaith.

Roedd ennill y wobr yn golygu cymaint i fi’n bersonol. Dw i wrth fy modd mod i’n gallu siarad yr iaith, ac roedd e’n anrhydedd cael fy enwebu, heb sôn am ennill. Ces i fy ysbrydoli gan enillwyr eraill dros y blynyddoedd, oedd yn ‘dangos y ffordd’, ac ro’n i’n benderfynol o wneud yn siŵr bod fy mlwyddyn fel Dysgwr y Flwyddyn yn cyfri. Dw i wedi mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau rhithiol ym mhob rhan o Gymru. Dw i wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd dros y flwyddyn, sy’n adleisio’r profiadau cadarnhaol dw i wedi’u cael wrth ddysgu’r iaith. Dw i’n annog dysgwyr eraill sydd, fel fi, wedi cael hwyl enfawr yn trawsnewid eu bywydau trwy ddysgu Cymraeg, i fynd amdani gyda’r gystadleuaeth eleni. Pob lwc i bawb!

David Thomas

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei lansio mewn bore coffi arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi sy’n rhan o ŵyl ddarllen Amdani y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.