Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Becky Evans

Becky Evans

Y ferch o Swydd Efrog sy’n siarad Cymraeg

Mae peiriannydd sifil sy'n wreiddiol o ogledd Swydd Efrog ymhlith y nifer cynyddol o ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau rhithiol  ac ar-lein a gydlynir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dechreuodd Rebecca “Becky” Evans, a gafodd ei geni a’i magu yn Harrogate, ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â’i dyweddi Huw, a anwyd yn Ynys Môn. Roedd y cwpl yn gweithio fel peirianwyr sifil ar ffordd osgoi'r A483 yn y Drenewydd yng nghanolbarth Cymru pan wnaethant gwrdd bedair blynedd yn ôl.

“Roedd cwrdd â Huw a’i deulu a’i ffrindiau yn golygu fy mod i’n ymgolli yn y Gymraeg ar unwaith,” meddai Becky, 29 oed. “Roedd yn teimlo’n naturiol mod i’n ymuno a dysgu ei siarad hefyd.”

Trwy ymarfer gartref yn rheolaidd gyda Huw, roedd Becky yn sgwrsio yn Gymraeg yn fuan. Yna penderfynodd fynd gam ymhellach trwy gofrestru ar gwrs lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yna aeth y gwaith â hi yn ôl i Birmingham am chwe mis lle parhaodd i ddilyn cwrs yng nghwmni 20 o gyd-ddysgwyr Cymraeg.

Ddwy flynedd yn ôl, ar ôl iddi hi symud i fyw gyda Huw yng Nghaerdydd, aeth Becky ymlaen i ddilyn cwrs ar y lefel nesaf, Sylfaen, gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Genedlaethol. Mae Becky wedi gwneud cynnydd da ac yn ddiweddar wedi cychwyn cwrs lefel Uwch, a ddaw i ben yn 2022.

“Dw i’n ei fwynhau’n fawr,” meddai Becky. “Cyn Covid, ro’n ni i gyd yn cwrdd yn y dosbarth; nawr dan ni'n cymryd rhan mewn gwersi Zoom sy'n gweithio'n dda iawn. Dan ni’n dal i weld ein gilydd, er ein bod ni ar y sgrin, ac yn ogystal â’r gweithgareddau dosbarth llawn, dan ni’n rhannu i grwpiau llai mewn sesiynau ‘breakout’ sy’n ffordd wych o ymarfer siarad. Mae gennym diwtor gwych o'r enw Mair sy'n hynod gefnogol. "

Heddiw mae Becky, a astudiodd beirianneg sifil ym Mhrifysgol Loughborough, yn un o siaradwyr newydd y Gymraeg. Mae’n siarad yr iaith gydag acen gogleddol ac mae’r gwahaniaethau ieithyddol rhwng y gogledd a'r de yn bwnc trafod ychwanegol yn y dosbarthiadau ar-lein.

Ac eto, pan mae Becky yn siarad Saesneg, mae ganddi acen gogledd Swydd Efrog. “Bydden i’n siomedig iawn pe na baech chi wedi sylwi ar hynny!” mae hi'n chwerthin.

Mae ganddi hefyd gysylltiadau teuluol Cymreig yn Harrogate. “Mae fy nhaid a nain ar ochr fy nhad yn dod o Sir Benfro yn wreiddiol,” esbonia. “Dydyn nhw ddim yn siarad Cymraeg eu hunain, ond maen nhw'n falch iawn o'r ffaith fy mod i'n dysgu.” 

Ar hyn o bryd mae Becky yn gweithio gartref ar y prosiect cyswllt rheilffordd Dwyrain-Gorllewin newydd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Mae hi a Huw yn bwriadu priodi fis Ebrill nesaf, ar ôl gohirio’r dyddiad gwreiddiol ym mis Gorffennaf eleni oherwydd y pandemig. 

“Bydd y briodas yn cael ei chynnal yn Harrogate a bydd y gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg – rhywbeth newydd i'm heglwys leol!” 

Diwedd

 

Nodiadau i Olygyddion

 

  1. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae'r Ganolfan yn gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg ac mae'n gweithio gydag 11 darparwr cyrsiau ledled Cymru, sy'n cynnal cyrsiau ar ei rhan.
  1. Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  1. Mae cyrsiau Cymraeg newydd mewn dosbarthiadau rhithiol yn cychwyn yn fuan; gall pobl hefyd ddilyn cyrsiau ar-lein am ddim a chyrchu ystod o adnoddau dysgu digidol - ewch i https://learnwelsh.cymru am yr holl wybodaeth.